Beth mae angen i mi ei wneud cyn dechrau gwaith adeiladu?
Project type
Cynllunio ymlaen
Cyn dechrau eich prosiect, penderfynwch beth yw eich targedau a gwnewch restr ddymuniadau er mwyn gallu creu cyllideb cyllideb.
Siaradwch â gweithwyr proffesiynol sy'n cael eu hargymell ac rydych chi'n ymddiried ynddynt i gael cyngor – penseiri, dylunwyr neu beirianwyr adeileddol. Gwnewch yn siŵr eu bod wedi'u cofrestru â'r corff proffesiynol priodol a chymerwch argymhellion personol gan deulu a ffrindiau os gallwch.
Dysgwch beth mae'r broses o ddylunio ac adeiladu yn ei gynnwys. Dysgwch beth mae'r broses o ddylunio ac adeiladu yn ei gynnwys.
Cael y caniatâd priodol
Darganfyddwch a oes angen caniatâd cynllunio a/neu reoliadau adeiladu ar gyfer eich prosiect penodol a gwnewch gais am y ddau mewn da bryd. Ac os ydych chi mewn adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth, siaradwch â'ch awdurdod cynllunio lleol am y gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud.
Deall eich prosiect
Os yw eich prosiect yn adeilad newydd, yn drawsnewidiad, yn estyniad neu'n waith ailwampio ac adnewyddu, bydd angen i chi nodi a chynllunio yn glir beth yr ydych yn gobeithio ei gyflawni.
Meddyliwch beth y bydd angen ei wneud a faint yr hoffech ei wario. Mae'n debygol mai hwn fydd eich buddsoddiad mwyaf, ar wahân i brynu eich eiddo, felly byddwch am wneud yn siŵr bod eich cartref a'ch buddsoddiad yn ddiogel, yn bodloni eich gofynion o ran lle, edrychiad a gorffeniad, ac yn cyflawni eich cyfrifoldebau cyfreithiol gan gynnwys cydymffurfio ag unrhyw reoliadau.
Deall pwy sy'n gwneud beth
Efallai y bydd eich prosiect wedi'i eithrio rhag unrhyw reolaeth rheoleiddio, neu efallai y bydd angen caniatâd arnoch. Efallai y bydd angen i chi weithio gydag amrywiaeth o weithwyr adeiladu proffesiynol a fydd yn darparu'r gymeradwyaeth a'r ardystiad sydd eu hangen i wneud yn siŵr bod eich prosiect yn gyfreithlon.
Gallai'r rhain gynnwys Swyddogion Cynllunio o'r Awdurdod Cynllunio lleol, cynghorwyr Cynllunio arbenigol os yw eich cartref mewn Parc Cenedlaethol, Swyddogion Cadwraeth os yw eich eiddo'n Rhestredig neu mewn Ardal Gadwraeth, syrfewyr Rheoli Adeiladu o'ch Corff Rheoli Adeiladu neu Unigolion Cymwys o'r gwahanol Gynlluniau Unigolion Cymwys sy'n gallu hunanardystio eu gwaith.
Rhoi gwybod i'ch cymdogion
Os yw'r gwaith yn golygu cloddio ffosydd yn agos at dŷ eich cymydog neu wal terfyn, neu os oes rhaid i chi addasu wal terfyn neu wal gydrannol (neu lawr hefyd mewn fflatiau), gallai fod Deddf Waliau Cydrannol etc. 1996 yn berthnasol a gallai fod rhaid i chi gyflwyno Hysbysiad Adeiledd Cydrannol i'ch cymydog/cymdogion.
Os na chyflwynwch hysbysiad cyn dechrau'r gwaith, mae'n bosibl y gallai eich cymydog/cymdogion ddechrau achos sifil yn eich erbyn.
Drwy siarad â'ch cymdogion yn gyntaf, hyd yn oed cyn gwneud cais am unrhyw ganiatâd, efallai y gallwch leihau unrhyw wrthwynebiad a thawelu meddyliau'r bobl y bydd y gwaith yn effeithio arnynt y gwnewch chi eich gorau i leihau cymaint o darfu â phosibl – traffig, sŵn, llwch, difrod ac ati.
Bydd yn beth da os bydd eich cymydog/cymdogion ar eich ochr chi, oherwydd mae anghydfodau'n gallu arwain at oediadau sy'n cynyddu costau ac yn gallu gadael drwgdeimlad rhyngoch chi a'ch cymydog/cymdogion.
Dewis ymgynghorydd
Os yw'r prosiect yn fwy cymhleth, fel adeiladu estyniad neu drawsnewid atig, efallai y bydd angen syrfëwr, peiriannydd adeileddol, pensaer, technolegydd pensaernïol neu gwmni dylunio ac adeiladu i'ch helpu i gynllunio, dylunio a/neu reoli eich gwaith adeiladu.
Dewis adeiladwr
Cyn gynted â bod eich cynlluniau'n barod, os nad ydych chi wedi dewis adeiladwr i wneud y gwaith, dyma'r amser! Darganfyddwch sut i ddewis adeiladwr.
Rhagor o wybodaeth
Pa mor bell ymlaen llaw ddylwn i feddwl am gael caniatâd cynllunio?
Ymgynghori â chymdogion
Mae angen ymgynghori â chymdogion cyn gwneud rhai mathau o waith:
- Dymchwel - Os yw eich prosiect yn cynnwys dymchwel adeilad sy'n fwy na 1750 troedfedd giwbig, bydd angen i chi gyflwyno hysbysiad dymchwel i'ch awdurdod lleol o dan Adran 80 Deddf Adeiladu 1984, a bydd yr awdurdod lleol yn hysbysu eich cymdogion.
- Cytundebau waliau cydrannol - Mewn rhai achosion, mae angen i chi siarad yn ffurfiol â'ch cymdogion. Os yw'r gwaith yn golygu cloddio ffosydd yn agos at dŷ eich cymydog neu wal terfyn, neu os oes rhaid i chi addasu wal terfyn neu wal gydrannol (neu lawr hefyd mewn fflatiau), gallai fod Deddf Waliau Cydrannol etc. 1996 yn berthnasol a gallai fod rhaid i chi gyflwyno Hysbysiad Adeiledd Cydrannol i'ch cymydog/cymdogion. Dylech benodi Syrfëwr Waliau Cydrannol i weithredu ar eich rhan. Efallai y bydd angen i'ch cymydog benodi Syrfëwr Waliau Cydrannol hefyd, a chi fydd yn gorfod talu am hwn. Gallwch gael gwybod mwy yma Gallwch gael gwybod mwy yma. Os na chyflwynwch hysbysiad cyn dechrau'r gwaith, mae'n bosibl y gallai eich cymydog/cymdogion ddechrau achos sifil yn eich erbyn.
- Caniatâd cynllunio - Os oes angen caniatâd cynllunio arnoch, bydd yr adran gynllunio'n cysylltu â'ch cymdogion yn ystod y broses ymgeisio i roi cyfle iddynt i weld y cynlluniau a gwneud unrhyw wrthwynebiad rhesymol.
Rhoi gwybod i'ch cymdogion
Drwy siarad â'ch cymdogion yn gyntaf, hyd yn oed cyn gwneud cais am unrhyw ganiatâd, efallai y gallwch leihau unrhyw wrthwynebiad a thawelu meddyliau'r bobl y bydd y gwaith yn effeithio arnynt y gwnewch chi eich gorau i leihau cymaint o darfu â phosibl – traffig, sŵn, llwch, difrod ac ati.
Bydd yn beth da os bydd eich cymydog/cymdogion ar eich ochr chi, oherwydd mae anghydfodau'n gallu arwain at oediadau sy'n cynyddu costau ac yn gallu gadael drwgdeimlad rhyngoch chi a'ch cymydog/cymdogion.
Mae angen ymgynghori â chymdogion cyn gwneud rhai mathau o waith:
- Dymchwel - Os yw eich prosiect yn cynnwys dymchwel adeilad sy'n fwy na 1750 troedfedd giwbig, bydd angen i chi gyflwyno hysbysiad dymchwel i'ch awdurdod lleol o dan Adran 80 Deddf Adeiladu 1984, a bydd yr awdurdod lleol yn hysbysu eich cymdogion.
- Cytundebau waliau cydrannol - Mewn rhai achosion, mae angen i chi siarad yn ffurfiol â'ch cymdogion. Os yw'r gwaith yn golygu cloddio ffosydd yn agos at dŷ eich cymydog neu wal terfyn, neu os oes rhaid i chi addasu wal terfyn neu wal gydrannol (neu lawr hefyd mewn fflatiau), gallai fod Deddf Waliau Cydrannol etc. 1996 yn berthnasol a gallai fod rhaid i chi gyflwyno Hysbysiad Adeiledd Cydrannol i'ch cymydog/cymdogion. Dylech benodi Syrfëwr Waliau Cydrannol i weithredu ar eich rhan. Efallai y bydd angen i'ch cymydog benodi Syrfëwr Waliau Cydrannol hefyd, a chi fydd yn gorfod talu am hwn. Gallwch gael gwybod mwy yma Gallwch gael gwybod mwy yma. Os na chyflwynwch hysbysiad cyn dechrau'r gwaith, mae'n bosibl y gallai eich cymydog/cymdogion ddechrau achos sifil yn eich erbyn.
- Caniatâd cynllunio - Os oes angen caniatâd cynllunio arnoch, bydd yr adran gynllunio'n cysylltu â'ch cymdogion yn ystod y broses ymgeisio i roi cyfle iddynt i weld y cynlluniau a gwneud unrhyw wrthwynebiad rhesymol.
Efallai y bydd eich prosiect wedi'i eithrio rhag unrhyw reolaeth rheoleiddio, neu efallai y bydd angen caniatâd arnoch. Efallai y bydd angen i chi weithio gydag amrywiaeth o weithwyr adeiladu proffesiynol a fydd yn darparu'r gymeradwyaeth a'r ardystiad sydd eu hangen i wneud yn siŵr bod eich prosiect yn gyfreithlon.
Gallai'r rhain gynnwys Swyddogion Cynllunio o'r Awdurdod Cynllunio lleol, cynghorwyr Cynllunio arbenigol os yw eich cartref mewn Parc Cenedlaethol, Swyddogion Cadwraeth os yw eich eiddo'n Rhestredig neu mewn Ardal Gadwraeth, syrfewyr Rheoli Adeiladu o'ch Corff Rheoli Adeiladu neu Unigolion Cymwys o'r gwahanol Gynlluniau Unigolion Cymwys sy'n gallu hunanardystio eu gwaith.
Darganfod a oes angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu arnoch
Isod mae cysylltau at wybodaeth bellach ynglŷn â rhai mathau cyffredin o waith i wella cartref ac arweiniad ynglŷn ag a oes angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu. Os oes gennych chi amheuon, siaradwch â thîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol:
- Ffenestr grom/bwa - bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i adeiladu ffenestri newydd. Caiff ffenestri crwm eu trin fel estyniadau, ond nid ffenestri bwa. Os ydych yn amnewid ffenestr grom, mae'r rheolau yr un fath ag ar gyfer unrhyw waith i amnewid ffenestr (bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu oni bai eich bod yn defnyddio unigolyn cymwys).
- Adeiladu/tynnu/addasu waliau - siaradwch â'ch syrfëwr rheoli adeiladu lleol cyn gwneud unrhyw waith ar waliau oherwydd gallai fod angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.
- Inswleiddio waliau ceudod - mae angen hysbysiad rheoliadau adeiladu a dim ond gosodwyr cymeradwy sy'n cael gosod defnydd inswleiddio waliau ceudod. Byddant yn gwneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar eich rhan.
- Ystafelloedd gwydr - wedi'u heithrio rhag y rheoliadau adeiladu os ydynt yn bodloni rheolau penodol.
- Trydanol - mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o waith trydanol fodloni'r rheoliadau adeiladu.
- Amnewid boeler nwy - mae'r rheoliadau adeiladu'n mynnu y bydd angen gosod boeler newydd math cyddwyso effeithlon iawn fel rheol.
- Trawsnewid atig - bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu bob amser, hyd yn oed os nad ydych yn adeiladu ffenestr ddormer.
- To newydd - bydd angen i'ch to newydd fodloni gofynion y rheoliadau adeiladu.
- Adnewyddu - mae angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer:
- Gwaith ar 'elfen thermol' (wal allanol, to neu lawr)
- Trawsnewid man sydd ddim wedi'i wresogi yn fan sydd wedi'i wresogi (e.e. trawsnewid garej)
- Amnewid ffenestri - bydd angen i chi hysbysu'r tîm rheoli adeiladu a gwneud cais oni bai eich bod yn gontractwr sydd wedi'i gofrestru â chynllun unigolion cymwys.
- Adnewyddu
- To
- To newydd - bydd angen i'ch to newydd fodloni gofynion y rheoliadau adeiladu.
- To presennol - os ydych yn adnewyddu 25% neu fwy o'ch to, bydd angen i chi fodloni gofynion y rheoliadau adeiladu.
- Gosod ffenestr do - os ydych yn gosod ffenestr do, bydd angen addasu adeiledd presennol y to a chryfhau neu drimio'r agoriad i gynnal pwysau'r ffenestr do. Felly, bydd angen i chi wneud cais rheoliadau adeiladu.
- Adeiladau bach ar wahân (tai allan) - mae hyn yn dibynnu ar arwynebedd y llawr a rhai ystyriaethau eraill.
- Addasiadau adeileddol - bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar y rhain bob amser.
Cewch gyngor am ganiatâd cynllunio mewn llawer o fannau ar y wefan hon hefyd, ond os oes gennych amheuaeth, cysylltwch â'ch awdurdod cynllunio lleol.
Dewis penodwr/dylunydd/ymgynghorydd pensaernïol
Os yw eich prosiect gwella cartref yn gymharol syml, dylai adeiladwr â phrofiad yn y math hwnnw o waith allu rhoi cyngor, cysylltu â rhywun i baratoi cynlluniau syml ac amcangyfrif y costau.
Os yw eich prosiect yn fwy cymhleth - gan gynnwys ychwanegu pethau at eich eiddo, er enghraifft - mae'n syniad da siarad ag ymgynghorydd pensaernïol, dylunydd a/neu beiriannydd adeileddol.
Darllenwch ein cyngor am
Dewis contractwr/adeiladwr
Ar ôl cytuno beth yn union yr hoffech ei adeiladu neu ei newid, bydd angen i chi ddewis adeiladwr neu gontractwr i droi eich cynlluniau'n realiti. Gallech ddewis defnyddio un cwmni neu brif gontractwr ar gyfer yr holl waith, neu ddewis rheoli cynllun y prosiect eich hun a chyflogi isgontractwyr. Hefyd, bydd angen i chi neu eich adeiladwr ddod o hyd i gontractwyr i'w cyflogi i wneud gwaith heb ei reoleiddio fel teilsio, addurno, tirlunio neu osod lloriau.
Mae llawer o bobl yn poeni am enw da'r adeiladwr y maent wedi'i ddewis, ac a yw'n gymwys. Wrth ddewis adeiladwr, gofynnwch am argymhellion gan gwsmeriaid y mae wedi gweithio iddynt yn ddiweddar.
Darllenwch ein cyngor am
Ysgrifennu cwmpas gwaith
Bydd cwmpas gwaith neu ddatganiad gwaith clir a chryno yn gallu eich helpu chi a'r unigolyn sy'n gwneud y gwaith i osgoi camddealltwriaeth yn nes ymlaen.
Cael dyfynbris
Bydd ein cyngor am y gwahaniaeth rhwng dyfynbris ac amcangyfrif yn helpu.
Cytuno ar gontract
Dylech gael contract ysgrifenedig a dilyn y canllawiau hyn:
Pa gontract ddylai fod gennyf ar gyfer fy ngwaith adeiladu?
Canslo'r contract
A rhag ofn i chi benderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r gwaith: