Skip to main content
A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i addasu fy garej

A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i addasu fy garej

Project type

Gan gymryd eich bod wedi gwneud yn siŵr nad oes amodau ar eich eiddo i atal addasu eich garej a'ch bod wedi gwirio â'ch awdurdod cynllunio lleol nad oes angen caniatâd cynllunio na chaniatâd adeilad rhestredig, y cam nesaf yw cyflwyno cais rheoliadau adeiladu.

Mae hyn oherwydd y bydd rhaid i'ch ystafell drigiadwy newydd fodloni'r holl reoliadau adeiladu presennol ar gyfer man trigiadwy, felly bydd angen:

  • Gwrthleithder
  • Sylfeini o dan waliau newydd
  • Inswleiddio
  • Awyru
  • Ffenestri sy'n bodloni'r safonau presennol
  • Efallai y bydd angen plymwaith, draeniau a gwaith trydanol newydd hefyd

A oes angen i mi gyflwyno hysbysiad Cynlluniau Llawn i addasu fy garej?

Pa mor fanwl ddylai cynlluniau addasu garej fod, ac oes angen i chi gyflwyno hysbysiad Cynlluniau Llawn? Cewch wybod yma.

Gallwch naill ai gyflwyno Hysbysiad Adeiladu, lle does dim angen cynlluniau, os yw eich adeiladwr yn gyfarwydd â'r holl ofynion cyfreithiol a thechnegol, neu os yw'n well gennych weithio â chynlluniau manwl a chytuno ar bopeth ymlaen llaw gallwch wneud cyflwyniad Cynlluniau Llawn.

Bydd rhaid i'r ystafell newydd fodloni'r holl reoliadau adeiladu presennol ar gyfer man trigiadwy felly bydd angen cwrs gwrthleithder iawn, sylfeini o dan waliau newydd, inswleiddio, awyru a ffenestri sy'n bodloni'r safonau presennol. Efallai y bydd angen plymwaith a draeniau newydd yn ogystal â gwaith trydanol.

Rhagor o wybodaeth

Popeth mae angen i chi ei wybod am geisiadau rheoliadau adeiladu