Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i drawsnewid fy atig?
Project type
Mae angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i wneud unrhyw waith trawsnewid atig, ac os mai chi yw perchennog yr eiddo, eich cyfrifoldeb chi fydd bodloni'r gofynion. Mae'r rheoliadau adeiladu yno i wneud yn siŵr bod eich atig wedi'i thrawsnewid yn adeileddol gadarn, yn gynnes ac yn ddiogel i chi a'ch teulu ei defnyddio.
Bydd angen i chi neu eich adeiladwr wneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ac, ar ôl cael cymeradwyaeth, bydd syrfëwr rheoli adeiladu'n eich helpu tuag at gwblhau eich ystafell wedi'i hadnewyddu. Bydd y syrfëwr yn archwilio'r gwaith ar ôl camau y cytunir arnynt ymlaen llaw i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio, ac yn rhoi tystysgrif cwblhau ar ôl yr archwiliad olaf os yw'r gwaith yn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu.
Pa waith fydd yn cael ei archwilio?
Bydd eich syrfëwr yn archwilio'r cynlluniau ac yn archwilio'r gwaith ar y safle i'ch helpu i sicrhau cydymffurfiad â'r rheoliadau adeiladu. Bydd yn edrych ar amrywiaeth o bethau - o gyfanrwydd adeileddol i drydanolion, awyru, diogelwch tân, ffordd o ddianc, ac inswleiddio.
Oni bai bod eich cartref yn dŷ sengl, bydd angen cytundeb wal gydrannol â'ch cymdogion hefyd cyn i'r gwaith ddechrau. Mae'n rhaid cael hwn ar wahân i gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y dystysgrif hon pan fydd y gwaith wedi'i orffen i osgoi problemau os byddwch yn gwerthu eich tŷ yn y dyfodol. (Dim cytundeb wal gydrannol?)
Rhagor o wybodaeth
A oes angen caniatâd cynllunio i drawsnewid fy atig?
Gwneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu (Cwestiynau Cyffredin)