Beth yw'r gwahaniaeth rhwng dyfynbris ac amcangyfrif?
Project type
Mae'n ddoeth cael o leiaf dri dyfynbris ar gyfer eich gwaith arfaethedig.
Gwnewch yn siŵr bod y dyfynbrisiau i gyd yn seiliedig ar yr un cwmpas gwaith a'r un cynlluniau, fel ei bod yn hawdd eu cymharu. Bydd defnyddio cynlluniau a manylebau manwl sydd wedi cael cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu'n helpu eich adeiladwr i roi dyfynbris cywir, gan osgoi sioc annymunol yn nes ymlaen.
Cofiwch fod gwahaniaeth rhwng dyfynbris ac amcangyfrif. Mae amcangyfrif yn golygu dyfalu faint allai tasg ei gostio ac yn aml caiff ei baratoi'n anffurfiol heb lawer o ymchwil. Mae amcangyfrifon yn gallu newid yn ddramatig ar ôl i waith ddechrau os yw'r gwaith yn canfod cymhlethdodau neu ddiffygion annisgwyl, neu os yw cwmpas eich gwaith yn newid. Nid yw amcangyfrif yn gyfreithiol-rwym.
Mae dyfynbris yn asesiad cost mwy manwl gywir. Os ydych yn adeiladu estyniad, yn trawsnewid atig neu'n gwneud gwaith adeileddol mwy cymhleth, dylech ofyn am ddyfynbris bob amser. I roi dyfynbris manwl gywir, a gwneud yn siŵr bod eich prosiect yn bodloni gofynion y rheoliadau adeiladu, efallai y bydd y contractwr yn gofyn am gynlluniau, cyfrifiadau a chwmpas gwaith.
Ar ôl i chi dderbyn dyfynbris, mae'n rhaid i'r contractwr wneud y gwaith am y pris hwnnw. Fodd bynnag, gydag amcangyfrif, gallai amgylchiadau annisgwyl arwain at waith ychwanegol, felly dylech gadw arian ychwanegol wrth gefn yn eich cyllideb rhag ofn i hyn ddigwydd.
Cofiwch: efallai nad y dyfynbris rhataf fydd yr un iawn i'ch prosiect chi. I wneud eich dewis, dylech ofyn am eirdaon bob amser.