Pwy sy'n gyfrifol am gydymffurfiad â'r rheoliadau adeiladu?
Project type
Mae'r rheoliadau adeiladu yno i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel, ac yn y pen draw, chi sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod eich tŷ'n cydymffurfio â nhw.
Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith mai chi fydd yn gorfod talu os yw gwaith wedi'i wneud yn wael, o ran costau trwsio'r broblem ac o ran iechyd a diogelwch pawb sy'n byw yn eich cartref.
Os nad yw gwaith adeiladu'n cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu, gall tîm rheoli adeiladu'r awdurdod lleol erlyn a dirwyo'r contractwr sy'n gwneud y gwaith adeiladu.
Ond cofiwch y bydd rhaid i chi dalu o'ch poced eich hun am unrhyw waith diffygiol y mae angen ei drwsio.
Chi hefyd sy'n gyfrifol am unrhyw ganiatâd cynllunio sydd ei angen, a dyma pam dylech bob amser siarad ag adran rheoli adeiladu eich awdurdod lleol (rhowch eich cod post yn y blwch chwilio uchod i gael manylion cyswllt eich tîm rheoli adeiladu) a'ch adran gynllunio leol cyn dechrau gwaith.
Rhagor o wybodaeth
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng caniatâd cynllunio a rheoli adeiladu?