Skip to main content
Sut rydw i'n pennu cyllideb ac yn trefnu cyllid ar gyfer y gwelliannau i fy nghartref?

Sut rydw i'n pennu cyllideb ac yn trefnu cyllid ar gyfer y gwelliannau i fy nghartref?

Project type

Sut rydw i'n pennu cyllideb ac yn trefnu cyllid ar gyfer y gwelliannau i fy nghartref?

Rhai awgrymiadau am gynllunio cyllideb a chael y cyllid ar gyfer eich prosiect.

Wrth gwrs, bydd cost yn un o'r ystyriaethau allweddol wrth gynllunio eich prosiect gwella cartref. I helpu i reoli'r gost a gwneud penderfyniadau, dylech bennu cyllideb yn gynnar a cheisio cadw ati!

Penderfynwch beth sydd ei angen gan gadw targed yn eich meddwl - bydd blaenoriaethu targedau'n eich helpu i reoli costau drwy wneud penderfyniadau am yr hyn sydd ei angen arnoch chi mewn gwirionedd.

Ceisiwch gael amcangyfrif (ac yna ychwanegu 10%) ar gyfer pob cam yn y gwaith. Mae costau adeiladwyr a chrefftwyr yn fwy tebygol o gynyddu na gostwng, felly dylech ychwanegu 10% o leiaf rhag ofn.

A chofiwch bob amser y gallech wynebu costau annisgwyl.

Cofiwch gynnwys costau am y canlynol os oes eu hangen ar gyfer eich gwaith penodol chi:

  • Ffioedd caniatâd cynllunio a/neu reoli adeiladu
  • Ffioedd penseiri neu syrfewyr adeileddol
  • Costau syrfewyr waliau cydrannol
  • Trwyddedau ar gyfer rhai addasiadau adeileddol
  • Adroddiadau acwstig 

D.S. Dylai gwaith gwella cartref gael ei wneud gan grefftwyr yr ydych yn ymddiried ynddynt.

Cyllid

I wneud gwelliannau cosmetig i'ch cartref, gallai cyllid gan fenthycwyr stryd fawr fod yn opsiwn, neu droi at eich cynilion.

Ar gyfer gwaith mwy fel estyniadau, neu unrhyw beth lle mae angen llawer o waith adeileddol, gallai fod yn well defnyddio benthyciwr arbenigol. Mae morgeisi penodol i waith adnewyddu ar gael i'w talu fesul cam (gwneud taliadau naill ai ar ddechrau neu ar ddiwedd pob cam). 

Mae'n bosibl y bydd grantiau hefyd ar gael ar gyfer rhai tasgau adnewyddu, naill ai gan awdurdodau lleol neu gan lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Rhagor o wybodaeth

Tudalen Cyngor ar Bopeth ynglŷn â gofyn am gymorth ariannol i wella eich cartref

Y Fargen Werdd – grant effeithlonrwydd egni sydd ar gynnig ar hyn o bryd (Medi 2020) yn y Deyrnas Unedig