Sut ydw i'n cael dyluniad ar gyfer fy mhrosiect gwella cartref?
Project type
Dilynwch y cyngor hwn...
- Creu briff dylunio
Cyn siarad â dylunydd, bydd angen i chi benderfynu beth yw eich blaenoriaethau eich hun oherwydd ni all y dylunydd ddweud wrthych beth sydd ei eisiau arnoch - dim ond dod o hyd i ffyrdd clyfar o'ch helpu i gyflawni hynny. Bydd unrhyw ddyluniad da'n ymateb unigol i'r safle ac anghenion ei berchenogion. Meddyliwch am elfennau fel ystafelloedd, sut y caiff ei ddefnyddio a'r lle sydd ar gael. - Bod yn glir am gyfanswm eich cyllideb
Nid oes pwynt creu dyluniadau sydd ddim yn fforddiadwy, ac mae angen i chi ganfod a oes modd adeiladu'r dyluniad yn hawdd ac am bris rhesymol. Gallwch ddewis dylunydd, ymgynghorydd pensaernïol, drafftsmon, neu gwmni dylunio ac adeiladu – bydd dyluniad da'n werth talu amdano a buddsoddi amser ac arian ynddo. Dylech ddisgwyl dyrannu rhwng pump a 10% o'ch cyllideb i waith dylunio. - Dod o hyd i rai pobl i ddewis o'u plith
Gofynnwch a wnânt siarad â chi cyn i chi eu comisiynu a hefyd gofynnwch am eirdaon gan bobl y maent wedi gweithio iddynt, ar brosiectau tebyg. Siaradwch â'u cleientiaid blaenorol yn enwedig i wneud yn siŵr eu bod wedi cwblhau eu dyluniadau o fewn y gyllideb.
D.S. Dylai eich dylunydd gymryd cyfrifoldeb am sicrhau cymeradwyaeth i'r cynlluniau gan yr adran gynllunio a'r tîm rheoli adeiladu, er mwyn i chi allu dechrau siarad ag adeiladwyr.