A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer ffenestri a drysau newydd
Mae ffenestr neu ddrws yn "ffitiad rheoledig" o dan y rheoliadau adeiladu, felly mae'n rhaid iddynt fodloni gofynion y rheoliadau adeiladu o ran:
- Diogelwch (h.y. amddiffyn rhag syrthio, gwrthdrawiadau ac ardrawiadau)
- Ffyrdd o ddianc rhag tân
- Awyru
- Perfformiad thermol
- Hygyrchedd (ar gyfer drysau)
Cewch ddefnyddio Hysbysiad Adeiladu i wneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu, ond nid yw'r rheoliadau'n berthnasol os mai dim ond y gwydr yr ydych yn ei newid.
Ffenestri
Bydd rhaid i ffenestri newydd fod yn ffenestri gwydr dwbl â gwydr allyrredd isel sy'n effeithlon o ran egni er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu oni bai eich bod mewn adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth; os felly, dylech holi eich awdurdod lleol. Nid oes rhaid defnyddio gwydr allyrredd isel mewn ystafell wydr.
Drysau
Nid yw'r rheoliadau'n berthnasol i ddrysau newydd oni bai bod dros 50% o'r drws a'r ffrâm, gan gynnwys y ffenestr linter, yn wydr ac os ydyw, bydd rhaid defnyddio gwydr diogelwch.
Gosod ffenestri a drysau
Gallwch gyflogi gosodwr sydd wedi'i gofrestru â FENSA i osod eich ffenestri a'ch drysau newydd ac, os oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu, bydd yn gallu ardystio ei waith ei hun heb gynnwys y tîm rheoli adeiladu. Cewch dystysgrif gan y gosodwr pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau. (Os nad ydych wedi cael un, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am un oherwydd bydd angen hon arnoch pan fyddwch yn gwerthu eich tŷ.) Defnyddiwch y peiriant chwilio "Dod o hyd i unigolyn cymwys" ar ben y dudalen hon.
Neu, os ydych yn cyflogi rhywun sydd ddim wedi'i gofrestru, bydd angen i chi wneud cais rheoliadau adeiladu.
Agoriadau newydd a lledu agoriadau
Os ydych yn gosod ffenestri a drysau newydd mewn agoriadau newydd neu agoriadau wedi'u lledu, bydd angen iddynt gydymffurfio â gofynion presennol y rheoliadau adeiladu mewn perthynas â faint o wres sy'n gallu mynd drwy'r gwydr a'r fframwaith, wedi'i fesur fel Gwerth-U.
Ni ddylid mynd dros y Gwerth-U hwn.
Gallwch gael manylion am uchafswm y Gwerth-U a ganiateir yn Nogfen Gymeradwy L-1B, Tabl 1.
Bydd angen i chi wneud cais rheoliadau adeiladu ar gyfer yr agoriad adeileddol a'r linter newydd yn ogystal â'r ffenestr ei hun, hyd yn oed os ydych yn defnyddio unigolyn cymwys i osod eich ffenestr.
Rhagor o wybodaeth
Cwestiynau cyffredin am geisiadau rheoliadau adeiladu