A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy nho newydd?
Project type
Os ydych yn gosod to hollol newydd, bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.
Bydd angen i ddyluniad eich to ystyried y llwythi neu'r pwysau y bydd angen eu dal. Bydd y tîm rheoli adeiladu'n gofyn i chi roi manylion am y defnyddiau yr ydych wedi'u dewis: byddai hyn yn cynnwys teils, llechi, estyll, ffelt, defnydd inswleiddio ac ati er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn addas i'r ongl ac i amodau tywydd eich eiddo.
Mae'n rhaid dylunio ac adeiladu'r to fel na fydd yn gollwng dŵr, hyd yn oed mewn tywydd garw.
Mae'n rhaid rhwymo'r to at yr adeiledd fel na fydd yn codi mewn gwyntoedd cryf. Fel rheol, cyflawnir hyn drwy ddefnyddio strapiau rhwymo tuag 1.2m o hyd â phen ar ongl 90 gradd sy'n cysylltu â'r plât wal pren (mae prennau'r to wedi'u cysylltu â hwn) ac yna â chroen mewnol y wal bob dau fetr. Mae'n bwysicach fyth rhwymo waliau talcen i mewn.
Bydd y ceibrau sy'n ffurfio ongl eich to'n ceisio gwahanu oddi wrth ei gilydd. Gall eich adeiladwr neu eich contractwr toi atal hyn drwy eu cysylltu â distiau eich nenfwd ond os hoffech dynnu'r nenfwd i ddatgelu'r to a defnyddio nenfwd bwaog, bydd angen i chi ddarparu cyfrifiadau i ddangos na fydd eich to'n gwahanu, a defnyddio datrysiadau eraill fel rhwymau i gadw'r ceibrau yn eu lle a'u hatal rhag gwahanu.