A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy nho sy'n bodoli eisoes?
Project type
Os ydych yn gwneud gwaith i atgyweirio eich to presennol, yn cynyddu'r llwyth arno drwy osod teils trymach yn lle eich llechi neu'n gwneud agoriad ar gyfer ffenestri to, er enghraifft, bydd angen i chi wneud cais rheoliadau adeiladu
Bydd angen i chi wneud cais hefyd os ydych yn adnewyddu 25% neu fwy o'r to gan ei fod yn 'elfen thermol'.
Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os ydych yn defnyddio yr un defnydd yn lle eich llechi neu deils, er enghraifft gan nad oes ffelt o dan y to neu fod yr hoelion wedi pydru, y bydd angen i chi gyflwyno cais rheoli adeiladu, ac y bydd angen i chi inswleiddio'r to i fodloni'r safonau presennol.
Dyma rai amgylchiadau eraill lle gallai fod angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu:
- Os ydych yn newid gorchudd y to i rywbeth sy'n perfformio'n waeth na'r gorchudd presennol (hyd yn oed os yw'n effeithio ar lai na 25% o arwynebedd y to).
- Os ydych yn gosod teils trymach yn lle llechi gan fod hyn yn cael ei ddosbarthu'n addasiad adeileddol - gallai'r llwyth ychwanegol gael effaith andwyol ar eich to a'ch waliau.
- Os oes angen byrddau neu ddecin newydd wrth osod gorchudd ffelt newydd ar do fflat sy'n bodoli fel gwaith atgyweirio - bydd angen i chi inswleiddio'r to fflat hefyd.