Skip to main content
A oes angen cais rheoliadau adeiladu ar gyfer fy ystafell wydr?

A oes angen cais rheoliadau adeiladu ar gyfer fy ystafell wydr?

Project type

Mae rhai projectau adeiladu cartref wedi'u heithrio rhag y rheoliadau adeiladu a does dim angen cymeradwyaeth, ac mae hyn yn cynnwys rhai ystafelloedd gwydr.

(D.S. Hyd yn oed os yw'r gwaith wedi'i eithrio, mae'n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio felly holwch eich adran gynllunio leol. Dylech chi hefyd gael gwybod a yw eich tŷ'n rhestredig, mewn ardal gadwraeth neu mewn parc cenedlaethol gan y gallai fod angen cymeradwyaeth neu ganiatâd arall.)

Ystafelloedd gwydr eithriedig

Bydd ystafell wydr yn eithriedig os yw'n bodloni'r canlynol:

  • Arwynebedd llawr heb fod dros 30m2 yn fewnol (os yw'n fwy na hyn caiff ei thrin fel estyniad).
  • Waliau, drysau neu ffenestri o ansawdd allanol yn ei gwahanu oddi wrth y prif gartref. (Bydd y drws allanol yn atal colledion gwres gormodol o'r annedd mewn tywydd oer ac yn atal gorboethi mewn tywydd cynnes.)
  • Ar lefel y ddaear.
  • Wedi'i gwresogi'n annibynnol, h.y. chewch chi ddim defnyddio eich system gwres canolog i'w gwresogi, ond cewch chi ddefnyddio gwresogydd wedi'i blygio yn y wal.

Os bydd eich ystafell wydr yn bodloni'r gofynion hyn i gyd, mae'n debyg y bydd yn eithriedig ac ni fydd angen i chi wneud cais rheoliadau adeiladu. Os oes gennych chi amheuon, siaradwch â thîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol. (Defnyddiwch y blwch chwilio uchod i gael eu manylion cyswllt uniongyrchol.)

Pryd bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu

  • Os yw'n methu â bodloni unrhyw un o'r amodau eithrio.
  • Os ydych chi'n adeiladu ystafell wydr cynllun agored â gweddill eich cartref, bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu. I gael cymeradwyaeth, bydd angen i chi ddangos bod yr ystafell wydr yr un mor effeithlon o ran egni â gweddill eich cartref. 
  • Os ydych chi'n bwriadu cynnwys sinc neu blymwaith arall, fel peiriant golchi neu doiled yn eich cynlluniau ystafell wydr.

Hefyd, i adeiladu agoriad newydd rhwng y tŷ a'r ystafell wydr bydd angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu.

Yn gyffredinol, rhaid adeiladu ystafelloedd gwydr o waliau a thoeau sy’n dryleu gan fwyaf ac os ydynt wedi'u hadeiladu'n gyfan gwbl neu'n rhannol o wydr, mae angen i'r gwydr fodloni gofynion rheoli adeiladu Dogfen Gymeradwy K.

Dylai gwydrau, yn enwedig ar lefel isel mewn drysau neu mewn ffenestri sydd wrth ymyl drysau fod yn wydr gwydn neu wydr diogelwch. Eto, mae'r gofynion ar gyfer gwydr diogelwch ar gael yn Nogfen Gymeradwy K.

Nodiadau am ystafelloedd gwydr

Ddylai ystafell wydr ddim atal mynediad i ffenestri dihangfa dân.

Os oes llawer o wydr ynddi (ffenestri, drysau a/neu oleuadau to) efallai y bydd angen cyfrifiadau thermol i brofi na fydd colledion gwres a chynnydd solar (y tymheredd yn codi oherwydd pelydriad solar) yn ormodol. Efallai y gofynnir i chi am gyfrifiadau adeileddol i brofi bod adeiledd yr adeilad yn ddigonol a'i fod yn gallu gwrthsefyll llwyth eira.

Gellir adeiladu sylfeini a lloriau ystafelloedd gwydr eithriedig mewn amrywiaeth o ffyrdd, ond mae angen ystyried amodau’r ddaear, coed a draeniau sy’n bodoli i osgoi ymsuddiant.

Mae'n arfer da cynnwys inswleiddio i'w gwneud yn haws gwresogi'r ystafell wydr.

Dylai ystafelloedd gwydr sydd wedi’u hadeiladu o uPVC fod â fframiau â marciau Safon Brydeinig (BSEN 126908 a/neu BS7412) i wneud yn siŵr eu bod yn ddigon cryf i gynnal pwysau’r to.

Fel rheol, bydd angen trin ystafelloedd gwydr pren drwy daenu staen neu olew arnynt.

Rhagor o wybodaeth

Sut i wneud cais rheoliadau adeiladu

Related Content

Project

Pa sylfeini sydd eu hangen ar fy ystafell wydr

Mae angen sylfeini cadarn o dan unrhyw adeiledd, ac mae hyn yr un mor wir am eich ystafell wydr ag unrhyw beth arall. Dysgwch fwy. ...

Project

A fydd angen cwrs gwrthleithder ar fy ystafell wydr newydd?

A oes angen i chi boeni am gwrs gwrthleithder ar gyfer eich ystafell wydr newydd? Cewch chi wybod yma. ...

Project

Mae gan fy nhŷ bilen nwy - a fydd angen un ar yr ystafell wydr hefyd

Os yw eich tŷ mewn ardal â radon neu nwyon eraill, a fydd angen pilen nwy? Cewch chi wybod yma. ...

Project

Beth yw'r problemau cyffredin ag ystafelloedd gwydr

Mae rhai problemau'n gyffredin mewn ystafelloedd gwydr - yma cewch chi wybod sut i'w hosgoi neu eu datrys nhw. ...

Project

Ymsuddiant, symudiad a'ch ystafell wydr

Ydych chi'n poeni bod eich ystafell wydr yn symud? Yma, cewch chi wybod am ymsuddiant, symudiad a'ch ystafell wydr. ...

Project

Sut i atal dŵr rhag mynd i mewn i fy ystafell wydr a difrodi fy nghartref

Awgrymiadau am yr hyn sydd ei angen i atal dŵr rhag dod i mewn i ystafell wydr ac atal problemau â lleithder yn eich ystafell wydr a'ch cartref. ...

Project

A oes gofynion mynediad ar gyfer fy ystafell wydr newydd

Cael gwybod a oes angen ystyried unrhyw beth o ran gofynion mynediad a'ch ystafell wydr newydd. ...

Project

A oes gofynion modd dianc ar gyfer fy ystafell wydr newydd

Mae'n rhaid bod yn ofalus os yw eich ystafell wydr yn mynd i'ch rhwystro chi a'ch teulu rhag dianc. Dysgwch fwy. ...

Project

Pa faterion sy'n berthnasol i adeiladu ystafell wydr cynllun agored

Cael gwybod pa reoliadau adeiladu mae angen eu hystyried wrth greu ystafell wydr cynllun agored. ...

Project

Sut rydw i'n atal fy ystafell wydr rhag gorboethi

Peidiwch ag anobeithio os yw eich ystafell wydr yn gorboethi - mae yna amryw o ffyrdd o'i hoeri hi. Dysgwch fwy. ...

Project

A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer fy ystafell wydr

Efallai na fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer rhai ystafelloedd gwydr. Gallwch chi ddarllen ein cyngor ynghylch a fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich ystafell wydr. ...

Project

Sut gallaf wella effeithlonrwydd egni fy ystafell wydr

Beth yw'r gofynion arbed egni ar gyfer ystafelloedd gwydr a sut gallaf wella'r effeithlonrwydd egni? ...

Project

conservatory

News

Do I need building regulations approval for my new conservatory

FAQ

Does my house need building permission if it has a pre-erected conservatory that built in the 90s

Project

Cwestiynau cyffredin am nwy radon a nwyon daear

Cwestiynau cyffredin Front Door am nwy daear a nwy radon. ...

Project

Sut bydd fy math o bridd yn effeithio ar fy mhroject adnewyddu cartref

Bydd y math o bridd ac amodau'r ddaear yn effeithio ar sut yr ydych yn cynllunio eich prosiect adnewyddu cartref. ...

Project

Hoffwn i roi to newydd ar fy ystafell wydr - beth ddylwn i ei wybod

Ydych chi'n meddwl am osod to solet yn lle'r to tryleu ar eich ystafell wydr? Mae angen i chi wybod ambell beth cyn gwneud hynny. ...

Project

Pa mor ddwfn ddylai sylfaen fy adeiledd domestig newydd fod

Mae angen i chi ystyried nifer o newidynnau wrth gyfrifo dyfnder sylfaen ar gyfer adeiledd domestig newydd. ...

Project

Beth yw'r materion sy'n ymwneud ag adeiladu o gwmpas coed, llwyni a gwrychoedd

Mae amrywiaeth o faterion posibl i'w hystyried wrth adeiladu'n agos at goed, llwyni a gwrychoedd. Dysgwch fwy. ...