Skip to main content

Amdanom ni

Gwefan gan yr LABC yw'r Drws Ffrynt. Yma, cewch wybod pwy yw'r LABC a'n partneriaid.

General
Save to list

Gan fod cymaint o wybodaeth ar gael ynghylch sut i wella a chreu cartref prydferth, mae'n anoddach dod o hyd i arweiniad ymarferol am ofynion technegol a pha gymeradwyaeth sydd ei hangen. Bydd y wybodaeth ar wefan y Drws Ffrynt yn eich helpu i gadw eich prosiect gwella cartref ar y trywydd iawn.

Cyngor annibynnol

Gwefan gan yr LABC yw'r Drws Ffrynt. Mae'r LABC yn fudiad aelodaeth dielw sy'n cynrychioli timau rheoli adeiladu pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr (mae gennym tua 3,800 o aelodau yn ein rhwydwaith cenedlaethol). Bydd ein timau lleol yn gweithio gyda chi i'ch helpu i gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.

Mae ein haelodau'n darparu:

  • Gwerth am arian
  • Cyngor di-dâl cyn i chi wneud cais
  • Ymweliadau â'r safle
  • Tawelwch meddwl

Gallwch ddefnyddio'r chwiliwr cod post ar y wefan hon i gael manylion cyswllt uniongyrchol tîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid fel Fforwm y Cynlluniau Unigolion Cymwys a'r Cyngor Gwella Cartrefi Cenedlaethol Cyngor Gwella Cartrefi Cenedlaethol i roi cyngor arbenigol, cyngor am amddiffyn defnyddwyr a mynediad at gwmnïau a gosodwyr wedi'u rheoleiddio.

Ymweld â gwefan yr LABC

Ffynhonnell gwybodaeth ddefnyddiol

Mae syrfewyr rheoli adeiladu awdurdodau lleol yn ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth leol ddefnyddiol ac yn gallu rhoi cyngor gwych am ddatrys problemau annisgwyl ar safle. Mae'r wefan hon yn esbonio beth maent yn ei wneud a sut maent yn gweithio gyda'ch dylunydd, eich adeiladwr a'ch crefftwyr. Rydych chi am weld eich breuddwyd yn cael ei gwireddu'n brydlon ac o fewn eich cyllideb. 

Maen nhw'n helpu drwy asesu cydymffurfiad â'r rheoliadau adeiladu ac yn edrych ar bethau fel sylfeini, elfennau adeileddol, draeniau, gwrthleithder, inswleiddio a diogelwch tân. 

Gall tîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol hyd yn oed helpu os ydych chi neu berchennog blaenorol wedi gwneud gwaith heb ganiatâd, drwy'r broses cymeradwyaeth unioni.

Maent yn hollol ddiduedd ac nid oes ganddynt hawl i wneud elw o'r gwasanaeth sydd ar gynnig. Mae ganddynt hyd yn oed bwerau i erlyn adeiladwyr diegwyddor, felly mae trefnu bod tîm rheoli adeiladu eich cyngor lleol yn archwilio eich gwaith adeiladu ac yn ei gymeradwyo'n sêl bendith gwerth ei chael.

Maent yno i'ch amddiffyn chi, felly siaradwch â nhw cyn gynted â phosibl.

Gwybodaeth am gynlluniau unigolion cymwys

Cynlluniau unigolion cymwys

Cafodd y cynlluniau unigolion cymwys sydd i'w gweld ar wefan y Drws Ffrynt eu cyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ganiatáu i unigolion a mentrau hunanardystio bod eu gwaith yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu, fel dewis arall yn lle cyflwyno cais i'r tîm rheoli adeiladu. Dyma'r unig sefydliadau â rôl cydymffurfio ffurfiol ar wahân i'r tîm rheoli adeiladu.

Cafodd y Drws Ffrynt ei ddatblygu gyda chytundeb darparwyr y cynllun cymeradwy er mwyn i chi allu chwilio am unigolyn cymwys sydd wedi'i gofrestru ag un o'r cynlluniau.

Gwybodaeth am gynlluniau unigolion cymwys

}