Skip to main content
Beth yw cwmpas gwaith ac a oes angen un arna'i

Beth yw cwmpas gwaith ac a oes angen un arna'i

Project type

Ym myd adeiladu, mae'r term 'cwmpas gwaith' (neu 'ddatganiad gwaith') yn derm cyffredinol iawn sy'n cyfeirio at ddisgrifiad cyffredinol o'r gwaith y mae disgwyl iddo gael ei wneud o dan gontract penodol.

Heb y datganiad ysgrifenedig hwn bydd amwysedd, dryswch a'r posibilrwydd o anghytuno yn y dyfodol rhyngoch chi a'r contractwr neu'r crefftwr yr ydych yn ei ddewis, felly mae'n sicr yn werth cymryd yr amser i wneud yn siŵr bod eich cwmpas gwaith yn gynhwysfawr ac yn hawdd ei ddeall. Bydd ei angen arnoch os ydych yn gofyn i adeiladwr am ddyfynbris yn hytrach nag amcangyfrif, a hefyd i baratoi eich contract ysgrifenedig.

Bydd y cwmpas gwaith yn amrywio o brosiect i brosiect, o ddisgrifiad cyffredinol syml iawn o'r gwaith sydd ei angen, i ddisgrifiad cyflawn a chynhwysfawr o'r prosiect, y defnyddiau, y gorffeniadau, cerrig milltir arwyddocaol, y rhaglen waith, prisiau, rolau a chyfrifoldebau gwahanol bobl a'r cynnyrch terfynol.

Bydd eich pensaer neu ddylunydd eich cynlluniau'n gallu eich cynghori am yr hyn y dylai fod wedi'i gynnwys, a pharatoi hyn ar eich cyfer.

Yn aml, bydd angen gwneud newidiadau i'r cwmpas gwaith ar ôl i'r contract gael ei ddyfarnu ac ar ôl i'r gwaith ddechrau. Bydd hyn fel rheol oherwydd amgylchiadau annisgwyl, er enghraifft:

  • darganfod ffynnon neu ddraen yn rhedeg o dan linell eich sylfaen
  • sylweddoli bod angen amnewid rhywfaint o bren y to cyn gallu trawsnewid eich atig
  • gweld nad yw eich trydanolion yn ddigon da a bod angen rhai newydd fel rhan o'ch gwaith adnewyddu.

Mae'r rhan fwyaf o gontractau'n gwneud darpariaethau ar gyfer amrywiadau neu addasiadau rhesymol, ac mae'r rhain yn gallu achosi newidiadau i'r gost derfynol. Os yw'r newidiadau hyn yn newid natur y gwaith ei hun, bydd angen contract newydd.

Weithiau, caiff gwaith ei roi ar dendr, gan gytuno ar bris cyn gwybod cwmpas llawn y gwaith yn fanwl, gan fod materion yn dod i'r amlwg neu'n cael eu datgelu ar ôl i'r gwaith ddechrau. Oherwydd hyn, gall y contract gynnwys symiau dros dro.

Ar gyfer prosiectau mwy, byddech yn defnyddio llwybrau caffael hyblyg, fel contractau mesur neu gontractau prif gost.

Rhagor o wybodaeth

Beth mae angen i mi ei wneud cyn dechrau gwaith adeiladu?

Pryd mae angen i mi siarad â gweithiwr proffesiynol?