Skip to main content
A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy nhai allan?

A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy nhai allan?

Project type

Yn gyntaf, efallai y byddwch yn meddwl tybed beth yn union yw tŷ allan?

Gallai fod yn unrhyw un o'r adeileddau hyn...

  • siediau
  • pyrth ceir sy'n agor ar ddwy ochr
  • tai gwydr sydd ddim yn cael eu defnyddio ar gyfer adwerthu, pecynnu nac arddangos
  • tai haf
  • rhandai
  • amgaeau yn yr ardd ar gyfer pyllau nofio, tybiau poeth a chabanau sawna ond gweler y wybodaeth hon am byllau nofio i ystyried a gaiff eich un chi ei ddosbarthu fel un y tu mewn neu y tu allan.
  • ystafelloedd gardd, swyddfa ardd neu stiwdio ardd
  • pergola wedi'i orchuddio


Fel rheol, ni fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer y rhan fwyaf o'r 'adeiladau unigol bach' hyn (fel mae'r rheoliadau adeiladu'n eu galw) os ydynt yn perthyn i un o'r categorïau canlynol:

Small detached buildings

  1. Mae arwynebedd y llawr yn llai na 15 metr sgwâr ac nid oes llety cysgu.
  2. Mae arwynebedd y llawr rhwng 15 a 30 metr sgwâr, heb lety cysgu, ac mae'r adeilad o leiaf un metr oddi wrth unrhyw ffin, neu wedi'i adeiladu o ddefnyddiau anhylosg gan fwyaf.

Fodd bynnag, os oes trydanolion yn unrhyw un o'r adeileddau hyn, mae'n rhaid i'r rhain gydymffurfio â Rhan P y rheoliadau adeiladu [cyswllt] a, gan fod mwy a mwy o swyddfeydd yn yr ardd nawr yn cynnwys cawod neu doiled, y plymwaith a'r draenio.

Os nad yw'r disgrifiadau uchod yn addas i'ch prosiect tŷ allan chi – er enghraifft os yw'n mynd i fod yn llety trigiadwy fel rhandy, fflat i berthynas oedrannus, neu gael ei ddefnyddio fel ystafell amlbwrpas, bydd angen i chi wneud cais rheoliadau adeiladu.

Rhagor o wybodaeth

Mae gan bob prosiect adeiladu ei ofynion unigryw ei hun, felly cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cael cyngor proffesiynol cyn dechrau ar y gwaith adeiladu.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn adeiladu garej, ystafell wydr neu bwll nofio? Ewch i'r tudalennau perthnasol ar y wefan hon:

Y rheoliadau adeiladu ar gyfer garejis

Y rheoliadau adeiladu ar gyfer ystafelloedd gwydr

Y rheoliadau adeiladu ar gyfer pyllau nofio