Helpu i wireddu eich breuddwydion am wella eich cartref?
Project type
Pam gwella'ch cartref?
Wrth gwrs, mae manteision i adnewyddu eich cartref a gwneud gwelliannau iddo.
- Mae'n gallu gwneud eich cartref yn lle brafiach i fyw ynddo, yn fwy cysurus a hyd yn oed yn fwy prydferth (gan ddibynnu ar beth sy'n cael ei wneud wrth gwrs) - yn fwy "chi".
- Gall roi boddhad mawr i chi, yn enwedig ar ôl i'r gwaith orffen!
- Gall wella effeithlonrwydd egni a chynaliadwyedd eich cartref.
- Gall roi cyfle i chi fod yn greadigol.
- Ac wrth gwrs, gall ychwanegu gwerth.
Fodd bynnag, er mwyn cael y manteision hyn bydd angen cynllunio'r prosiect yn dda, ei gyllidebu (gan gynnwys 10% yn ychwanegol ar gyfer materion annisgwyl) a'i gyflawni'n iawn, oherwydd gall gwaith gwael arwain at gostau ariannol ychwanegol sylweddol a hyd yn oed bygwth eich iechyd a'ch diogelwch.
Efallai na welwch chi'r problemau ar unwaith - mae'n bosibl na wnânt ymddangos am fisoedd ar ôl y gwaith pan fydd y dŵr a'r oerfel yn dechrau sleifio i mewn a'r craciau'n dechrau ymddangos.
A gallai tynnu simnai i lawr heb fod yn ddigon gofalus, tynnu wal cynnal pwysau neu osod system drydanol newydd yn anghywir achosi perygl enbyd i chi a'ch teulu.
Beth yw gwelliannau i'r cartref?
Dyma rai o'r gwelliannau y gallech fod yn ceisio eu cyflawni â'ch prosiect gwella cartref:
- Mwy cysurus - er enghraifft, uwchraddio'r gwres canolog neu ychwanegu defnydd inswleiddio
- Mwy o le - drwy drawsnewid yr atig neu ychwanegu estyniad
- Cynnal a chadw - efallai fod angen atgyweirio eich to neu osod ffenestri newydd
- Mwy diogel - drwy uwchraddio eich diogelwch neu osod system larwm mwg gysylltiedig
- Mwy effeithlon o ran egni - drwy osod ffenestri gwydr dwbl, neu osod paneli solar ar y to, er enghraifft
Dechrau drwy ddewis prosiect
Ar wefan Drws Ffrynt, gallwch ddechrau dod o hyd i wybodaeth am eich prosiect chi drwy ddewis y math priodol o brosiect.
Yma, cewch wybodaeth am y rheoliadau adeiladu, caniatâd cynllunio, problemau tebygol a beth fydd y tîm rheoli adeiladu'n ei ddisgwyl (a llawer mwy).
Gwybodaeth gyffredinol
Hefyd, cewch wybodaeth gyffredinol sydd ddim yn ymwneud yn benodol ag unrhyw un prosiect - cyngor am sut i ddewis crefftwr er enghraifft, neu ba yswiriant y bydd ei angen ar gyfer prosiect gwella cartref.
Er ein bod bob amser yn argymell siarad â gweithiwr proffesiynol - crefftwr, adeiladwr neu syrfëwr rheoli adeiladu - rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth a gewch gan Drws Ffrynt yn helpu i roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'ch arwain at ddiwedd eich prosiect a'ch helpu i osgoi rhai o'r maglau sy'n gyffredin yn ystod prosiect adnewyddu.
Rhagor o wybodaeth
Beth yw'r rheoliadau adeiladu?
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng caniatâd cynllunio a rheoli adeiladu?