Beth yw fy hawliau o ran cyfnod callio a chanslo?
Project type
Os ydych yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'ch gwaith adeiladu, tirlunio neu addurno, bydd eich hawl gyfreithiol i ganslo a chael eich arian yn ôl yn dibynnu ar ble a sut y gwnaethoch y trefniadau, a ydynt wedi dechrau gweithio ac a ydych wedi archebu cynhyrchion 'ar archeb' ynteu cynhyrchion safonol.
Os ydych wedi gwneud trefniadau ar gyfer y gwaith ym man busnes neu gartref y contractwr neu'r cwmni, bydd eich hawl i ganslo'n dibynnu a yw wedi dechrau'r gwaith ai peidio.
Canslo cyn i'r gwaith ddechrau
Gallwch ganslo'r gwaith cyn belled ag nad ydych wedi gwneud contract, ac ni fydd rhaid i chi dalu dim. Fodd bynnag, gan fod contract yn ffurfio pan fyddwch chi neu'r busnes yn gwneud cynnig a'r parti arall yn derbyn, mae'n debygol y bydd gennych ryw fath o gytundeb drwy gontract, hyd yn oed os nad yw'n gontract ysgrifenedig ffurfiol.
Efallai y byddwch wedi llofnodi cytundeb, cytuno â dyfynbris (gallai hyn fod ar lafar), cytuno ar ddyddiad dechrau, talu blaendal neu ddim ond dweud wrthynt am wneud y gwaith. Os yw unrhyw un o'r rhain yn berthnasol, bydd canslo'n torri'r cytundeb hwnnw oni bai eich bod wedi cytuno ag amodau ar gyfer canslo (fel tâl am ganslo) neu os nad yw'r busnes wedi anrhydeddu'r cytundeb drwy ddechrau neu orffen yn hwyr.
Efallai y byddant yn gofyn i chi dalu ffi canslo (yn ddelfrydol, byddech wedi cytuno ar y ffi hon mewn contract) neu dalu am golli elw o ganlyniad i ganslo gan nad oeddent wedi trefnu unrhyw waith arall yn ystod cyfnod eich prosiect.
Efallai y byddant yn cadw rhywfaint o unrhyw flaendal yr ydych wedi'i dalu. Efallai y bydd angen i chi negodi'r swm hwn.
Canslo ar ôl i'r gwaith ddechrau
Os ydych yn canslo ar ôl i'r gwaith ddechrau, bydd angen i chi negodi â'r busnes. Efallai y byddant yn gofyn i chi dalu ffi canslo i dalu am y canlynol:
- costau llafur hyd at yr adeg pan wnaethoch chi ganslo
- unrhyw eitemau sydd wedi'u gosod neu eu ffitio ac nad yw'n bosibl eu tynnu heb eu difrodi
- dychwelyd unrhyw eitemau sydd wedi cael eu danfon ond heb gael eu gosod
- unrhyw elw sydd wedi'i golli oherwydd eich bod wedi canslo.
Os ydych wedi talu blaendal, mae'n debygol y byddant yn cadw rhywfaint neu'r cyfan ohono i helpu i dalu eu costau. Negodwch â'r busnes os ydych yn meddwl eu bod yn cadw swm afresymol, neu'n codi ffi afresymol am ganslo.
Cyfnod callio
Os ydych wedi trefnu'r gwaith oddi ar safle'r busnes, fel dros y ffôn, drwy archeb bost neu ar y rhyngrwyd, mae gennych 'gyfnod callio' statudol o 14 diwrnod i ganslo a chael ad-daliad. Gwiriwch unrhyw delerau ac amodau, gan y gallai'r cyfnod fod yn fwy nag 14 diwrnod. Ar ôl y cyfnod callio, bydd eich hawliau canslo yr un fath â phe baech wedi trefnu'r gwaith ar safle'r busnes.
Os ydych wedi archebu nwyddau ar archeb fel ystafell wydr, cegin neu dŷ allan, ni chewch gyfnod callio yn awtomatig.
Nid oes cyfnod callio ychwaith os ydych yn gwahodd y busnes i'ch cartref i wneud gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw brys - er enghraifft, wrth ofyn i blymwr ddod i drwsio peipen sydd wedi byrstio neu ofyn i döwr drwsio gollyngiad.
Bydd eich cyfnod callio'n dechrau y diwrnod ar ôl i chi ddweud y caiff y gwaith ddigwydd.
Os nad yw'r gwaith wedi dechrau a'ch bod yn dal i fod yn y cyfnod callio, gallwch ganslo a chael eich arian i gyd yn ôl. Dylech ganslo yn ysgrifenedig, mewn e-bost neu lythyr, er mwyn rhoi cofnod o'ch cais.
Os ydych wedi gofyn i'r gwasanaeth gael ei ddarparu'n gyflym, yn ystod y cyfnod callio a bod y busnes wedi darparu'r wybodaeth am ganslo, bydd rhaid i chi dalu rhan o'r pris y cytunwyd arno. Bydd y swm yn dibynnu ar faint oedd wedi'i gwblhau pan wnaethoch y cais i ganslo. Fodd bynnag, os yw'r contractwr wedi dechrau'r gwaith yn ystod y cyfnod callio heb eich cymeradwyaeth, bydd gennych hawl i ganslo a chael ad-daliad llawn am y costau.
Negodi
Dylech geisio negodi â'r busnes os ydych yn anghytuno â'r swm y maent yn ei godi am waith sydd eisoes wedi'i gwblhau pan ydych yn canslo, a yw ffi canslo'n deg ai peidio neu faint o'ch blaendal sy'n digolledu'r busnes.
Os yw'r busnes yn aelod o gymdeithas fasnach, efallai y gallai'r gymdeithas eich helpu i negodi. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio cynllun datrys anghydfodau amgen hefyd - ffordd o ddatrys anghydfodau heb fynd i'r llys.
Rhagor o wybodaeth
Beth mae angen i mi ei wneud cyn dechrau gwaith adeiladu?
Sut dylwn i ddewis adeiladwr a gweithio gyda'r adeiladwr ar fy mhrosiect i wella fy nghartref?