Pryd mae angen i mi siarad â gweithiwr proffesiynol
Project type
Os yw eich prosiect gwella cartref yn gymharol syml, efallai y bydd adeiladwr â phrofiad yn y math hwnnw o waith yn gallu rhoi cyngor, paratoi cynlluniau syml ac amcangyfrif y costau.
Ymgynghorwyr a dylunwyr pensaernïol
Os yw'r gwaith adnewyddu'n mynd i fod yn fwy cymhleth - gan gynnwys ychwanegu pethau at eich eiddo, er enghraifft - gallai fod yn syniad da siarad ag ymgynghorydd neu ddylunydd pensaernïol. Lluniwch friff a rhestr ddymuniadau o'ch gofynion, a meddyliwch am eich cyllideb cyn cysylltu â nhw.
Mae llawer o ddylunwyr neu ymgynghorwyr pensaernïol yn cynnig ymgynghoriad untro sy'n rhoi arweiniad am ddylunio ac adeiladu. Gallwch hefyd eu cyfarwyddo i gael y caniatâd cynllunio a rheoli adeiladu gofynnol (er mai chi fydd yn gyfrifol am gydymffurfio â nhw bob amser).
Bydd cost i'w thalu am gyflogi un o'r gweithwyr proffesiynol hyn, ond mae'n bosibl y gallant eich cynghori am ffyrdd o gadw'r costau i lawr, yn ystod y gwaith adeiladu ac o ran costau egni yn y dyfodol - drwy ddylunio'n gynaliadwy.
Peirianwyr adeileddol
Mae peiriannydd adeileddol yn weithiwr proffesiynol arall y gallai fod angen i chi neu eich pensaer siarad ag ef.
Bydd hyn yn wir os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau adeileddol i'ch cartref neu os ydych yn ychwanegu adeiledd newydd.
Felly os yw eich prosiect yn tynnu simnai neu wal cynnal pwysau i lawr, yn adeiladu estyniad neu'n gwneud darn arall o waith adeileddol mawr, efallai y gwnaiff eich pensaer neu eich syrfëwr rheoli adeiladu eich cynghori i gyflogi'r math hwn o weithiwr proffesiynol.
Rheolwr prosiect
Ar gyfer tasg fwy cymhleth fel estyniad tŷ mawr, efallai yr hoffech gyflogi rheolwr prosiect - gallai un profiadol arbed amser, arian a straen i chi.
Neu os ydych yn drefnus, yn bendant ac yn dysgu'n gyflym, mae'n bosibl y gallwch reoli'r prosiect eich hun - ond gwnewch lawer o waith ymchwil a chynllunio cyn cymryd y dasg hon.
Rhagor o wybodaeth
Pa mor bell ymlaen llaw ddylwn i feddwl am gael caniatâd cynllunio?