Sut dylwn i ddewis adeiladwr a gweithio gyda'r adeiladwr i wella fy nghartref?
Project type
Dewis adeiladwr
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael dyfynbrisiau am y gwaith. Yn ddelfrydol, dylech gael o leiaf dri dyfynbris a defnyddio'r cynlluniau y mae eich dylunydd wedi'u llunio ar eich cyfer, felly gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o gopïau i'w rhannu. Bydd defnyddio cynlluniau a manylebau manwl sydd wedi cael cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu'n helpu eich adeiladwr i roi dyfynbris cywir, gan osgoi sioc annymunol yn nes ymlaen.
Mae llawer o bobl yn poeni am enw da'r adeiladwr y maent wedi'i ddewis, ac a yw'n gymwys. Wrth ddewis adeiladwr, ceisiwch gael argymhellion gan rywun y mae wedi gweithio iddynt.
Efallai y penderfynwch ddewis adeiladwr neu gontractwr sy'n aelod o gorff masnach neu gymdeithas fasnach. Os yw contractwyr yn honni eu bod yn aelodau o gymdeithas fasnach, dylech wirio hyn bob amser. Mae'n beth syml i'w wneud mewn rhai munudau ar y ffôn neu'r rhyngrwyd.
Nid yw'n orfodol, ond os ydych newydd symud i'r ardal neu os nad oes gennych neb i ofyn iddynt yn lleol am argymhellion, gallai defnyddio corff masnach i ddod o hyd i adeiladwr roi tawelwch meddwl i chi. Fel arall, efallai y bydd gan dîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol restr o adeiladwyr y maent yn gweithio gyda hwy'n rheolaidd.
Bydd rhai cymdeithasau'n monitro neu'n archwilio eu masnachwyr yn rheolaidd gan wirio eu manylion ariannol a'u darpariaethau yswiriant. Ond bydd eraill yn codi ffi am aelodaeth heb wneud dim archwiliadau.
https://builduk.org/members/trade-association-members/ neu yma https://www.designingbuildings.co.uk/wiki/Construction_industry_institutes_and_associations_A_to_F.
Mae cynlluniau fel Trustmark, Checkatrade a Rated People ar gael hefyd.
- Efallai y gwnaiff rhai contractwyr awgrymu eu bod yn aelodau o gymdeithas fasnach, ond dylech wirio hyn bob amser. Mae'n beth syml i'w wneud mewn rhai munudau ar y ffôn neu'r rhyngrwyd. Peidiwch â chael eich twyllo gan gardiau sy'n cael eu cyflwyno wrth y drws. Os nad ydych yn gwybod pwy yw'r contractwr, gofynnwch am fanylion ei brosiectau yn y gorffennol ac archwiliwch y gwaith y mae'n dweud ei fod wedi'i wneud. Bydd cyn-gwsmeriaid hapus yn ddigon parod i ateb eich cwestiynau!
- Os nad ydych yn gwybod pwy yw'r contractwr, gofynnwch am fanylion ei brosiectau yn y gorffennol ac archwiliwch y gwaith y mae'n dweud ei fod wedi'i wneud.
- Peidiwch â mynd am y pris rhataf bob amser a gwnewch yn siŵr bod y contractwr wedi'i gofrestru ar gyfer TAW. Peidiwch â chael eich temtio i dalu mewn arian parod heb gynnwys TAW. Mae adeiladwyr sy'n gwneud hyn yn torri'r gyfraith ac mae'n bosibl y byddant yn barod i dorri corneli ar eich gwaith adeiladu.
- Os nad oes gennych dderbynneb neu warant ar gyfer y gwaith, gallai fod yn annilys.
Pethau i gytuno arnynt â'ch adeiladwr cyn i'r gwaith ddechrau
- 'Cwmpas y gwaith - dogfen(nau) sy'n rhoi manylion fesul eitem am y gwaith a wneir, pryd, y defnyddiau a ddefnyddir a sut y gwneir y gwaith. Bydd hyn yn helpu i'ch diogelu chi a'ch adeiladwr drwy leihau'r risg o gamgymeriadau a chamddealltwriaeth yn ddiweddarach. (Gofynnwch gwestiynau os nad ydych yn glir am unrhyw fanylion.)
- Oriau'r gwaith.
- Mynediad i'r eiddo ac o'i gwmpas (diogelwch, parcio, danfoniadau, storio defnyddiau, mannau i gontractwyr fynd iddynt er mwyn gallu gwneud y gwaith).
- Cyfleusterau toiled.
- Gwasanaethau dŵr a thrydan ar gyfer cyfarpar a phrosesau.
- Cael gwared â sbwriel a storio gwastraff.
- Atgyweirio difrod i'ch tir a'ch eiddo ac i eiddo eich cymydog.
- Talu fesul cam.
- Gwiriwch fod ganddynt yswiriant damweiniau ac atebolrwydd personol: Os nad oes, gallech chi fod yn atebol am unrhyw anafiadau/difrod a achosir gan eich contractwr.
Tynnwch luniau o'r eiddo cyn ac ar ôl y gwaith: bydd hyn yn rhoi achos cryfach i chi os bydd anghydfod rhyngoch chi a'ch contractwr ynglŷn â safon y gwaith neu ddifrod ac ati.
Gofynnwch i'ch adeiladwr am ei berthynas â'ch tîm rheoli adeiladu lleol. Dylai fod perthynas gadarnhaol rhyngddynt ac mae adeiladwyr da'n hapus i gael archwiliadau rheoli adeiladu rheolaidd. Gallwch ofyn i syrfëwr rheoli adeiladu eich awdurdod lleol eich cynnwys yn y broses archwilio a rhoi diweddariadau byr ar ôl archwiliadau.
Yn olaf, cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn cael copi o'r dystysgrif cwblhau rheoli adeiladu ar ddiwedd y prosiect, yn ddelfrydol cyn i chi wneud eich taliad olaf i'r adeiladwr. Cadwch y dystysgrif hon mewn man diogel oherwydd bydd ei hangen arnoch os ydych yn gwerthu eich tŷ neu'n gwneud benthyciad yn ei erbyn, a gall copïau ychwanegol fod yn ddrud.
Rhagor o wybodaeth
Sut ydw i'n cael dyluniad ar gyfer fy mhrosiect gwella cartref?