A fydd angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu ar gyfer gwaith trydanol?
Project type
Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o waith trydanol yn eich cartref fodloni gofynion Dogfen Gymeradwy P y rheoliadau adeiladu. Mae hon yn nodi bod rhaid i unrhyw un sy'n gwneud gwaith gosod trydanol wneud yn siŵr ei fod wedi'i ddylunio a'i osod mewn modd sy'n amddiffyn pobl rhag tân a siociau trydanol.
Os yw Rhan P yn berthnasol i'ch gwaith mae'n rhaid i chi naill ai:
- Rhoi gwybod i dîm rheoli adeiladu'r awdurdod lleol am y gwaith, neu
- Gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud gan drydanwr sy'n aelod cofrestredig o Gynllun Unigolion Cymwys sydd wedi'i gymeradwyo gan y Llywodraeth
Cewch ragor o wybodaeth am waith trydanol sy'n benodol i'ch prosiect penodol chi mewn mannau eraill ar y wefan hon.