Skip to main content
Pa mor bell ymlaen llaw ddylwn i feddwl am gael caniatâd cynllunio

Pa mor bell ymlaen llaw ddylwn i feddwl am gael caniatâd cynllunio

Project type

Os ydych yn mynd i fod yn adeiladu rhywbeth newydd, yn gwneud newid mawr i'ch eiddo, neu'n ei ddefnyddio mewn ffordd wahanol, yn ôl pob tebyg bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio oni bai bod y gwaith yn ddatblygiad a ganiateir.

Rydym yn argymell cysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol cyn gynted â phosibl yn y cyfnod cynllunio i drafod y gwaith gyda nhw.

Dylech wneud cais am ganiatâd cynllunio o leiaf wyth wythnos cyn bod y gwaith i fod i ddechrau, ond cofiwch y gallai gymryd mwy o amser i'r awdurdod wneud penderfyniad am brosiect cymhleth. A chofiwch hefyd y bydd yn cymryd amser i ddod â'r cynlluniau at ei gilydd.

Rhagor o wybodaeth

Sut ydw i'n cael dyluniad ar gyfer fy mhrosiect gwella cartref?

Beth yw'r rhesymau cyffredin dros wrthod caniatâd cynllunio?