Hoffwn i osod ffenestr do - a oes angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu?
Project type
Mae ffenestri to'n ffordd wych o gyflwyno mwy o olau dydd naturiol ac awyru i'ch tŷ.
Fodd bynnag, bydd angen i chi gyflwyno cais rheoliadau adeiladu i osod ffenestr do newydd gan y bydd hyn yn golygu gwneud agoriad adeileddol newydd yn eich to. Bydd hefyd yn gwneud y rhan honno o'r to'n drymach, sy'n golygu y gallai fod angen cryfhau'r trawstiau o gwmpas yr agoriad.
Bydd rhaid i'r ffenestr do fodloni'r un gofynion rheoliadau adeiladu â ffenestr newydd o ran effeithlonrwydd thermol, gwydrau diogelwch a chyfyngu agoriadau mewn lleoliadau critigol a maint a dyluniad yr agoriad os yw'n cymryd lle dihangfa dân neu'n darparu ffordd newydd o ddianc.