Geirdaon ar gyfer gwaith adeiladu - beth ddylwn i ei ofyn
Project type
Dylai unrhyw gontractwr da fod yn hapus i ddarparu geirdaon am waith blaenorol. Ond peidiwch â derbyn y geirdaon hyn ar eu golwg: ffoniwch i ofyn ambell i gwestiwn – nid dim ond ffotograffau o brosiect wedi'i orffen sydd eu hangen arnoch. Gofynnwch yr un cwestiynau i bawb yr ydych yn cysylltu â hwy.
Gallech ofyn:
- Pe baech yn gwneud prosiect arall, a fyddech yn defnyddio'r un contractwr?
- Yn ystod eich prosiect, pa unigolyn o'r cwmni y gwnaethoch gysylltu fwyaf ag ef?
- A oedd y safle'n cael ei gadw'n ddiogel ac yn daclus bob amser?
- A wnaeth unrhyw ddamweiniau achosi difrod i'ch eiddo neu niwed i unigolyn?
- A gawsoch anfonebau pan oeddech yn eu disgwyl, ac a oeddech yn deall beth yr oedd gofyn i chi dalu amdano? A oedd unrhyw broblemau dros daliadau?
- A oeddech yn gwybod pwy oedd yn gwneud y gwaith rheoli adeiladu ar gyfer eich prosiect (os yn berthnasol) ac a oedd eich contractwr yn cyfarfod â'ch syrfëwr rheoli adeiladu ar y safle bob amser? A wnaeth ddweud wrthych os oedd yr archwiliadau wedi canfod unrhyw broblemau? A gawsoch eich Tystysgrif Cwblhau neu gopïau o'ch tystysgrifau nwy neu drydan?
- A oedd gennych amserlen ar gyfer cyrraedd gwahanol gamau, gan gynnwys dyddiad cwblhau? A gafodd y rhain eu bodloni?
- Sut y gwnaethoch gytuno ar daliadau am unrhyw nodweddion ychwanegol neu newidiadau i'r prosiect neu'r fanyleb yr oeddech wedi cytuno arnynt?
- Sut y daethoch o hyd i'r contractwr hwn i ddechrau? – Mae'r cwestiwn hwn er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt yn berthynas neu'n ffrind personol agos i'r contractwr!
Peidiwch â chael eich twyllo gan gardiau sy'n cael eu cyflwyno wrth y drws. Os nad ydych yn gwybod pwy yw'r contractwr, gofynnwch am fanylion ei brosiectau yn y gorffennol ac archwiliwch y gwaith y mae'n dweud ei fod wedi'i wneud. Bydd cyn-gwsmeriaid hapus yn ddigon hapus i ateb eich cwestiynau!