Skip to main content
Eithriadau rheoli adeiladu

Eithriadau rheoli adeiladu

Project type

Gellir gwneud rhai mathau o waith adeiladu heb hysbysu'r tîm rheoli adeiladu. 

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Y rhan fwyaf o fân waith atgyweirio a chynnal a chadw (ond bydd angen hysbysu am amnewid offer llosgi tanwydd neu danciau olew, blychau ffiwsys trydanol neu unedau gwydr).
  • Amnewid llai na 25% o eitem â rhywbeth tebyg.
  • Ychwanegu socedi pŵer a goleuadau a newidiadau i gylchedau trydanol sy'n bodoli (os nad ydynt o gwmpas baddonau a chawodydd).
  • Amnewid baddonau, toiledau, basnau neu sinciau â gosodiadau tebyg.
  • Waliau, ffensys a gatiau ar ffiniau ac yn yr ardd.

Mae mathau eraill o waith adeiladu'n gallu bod yn 'eithriedig' rhag y rheoliadau adeiladu ond dim ond os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Mae'r rhain yn cynnwys:

    • Tai allan Tai allan (e.e. tai gwydr, garejis ar wahân newydd, siediau, tai haf, pyrth ceir)
    • Adeiladau ategol (er enghraifft, cwt ar safle adeiladu)
    • Adeiladau nad yw pobl yn mynd iddynt (er enghraifft, rhai sy'n cynnwys peiriannau ac mai dim ond i wneud gwaith cynnal a chadw y bydd angen mynd i mewn)
    • Ystafelloedd gwydr Ystafelloedd gwydr dan rai amodau
    • Pyrth Pyrth dan rai amodau
    • Rhai adeiladau amaethyddol, er enghraifft sgubor neu stablau sy'n cael eu defnyddio i gadw anifeiliaid
    • Adeiladau dros dro fel pabell fawr sy'n cael ei chodi am lai na 28 diwrnod
  • Dysglau lloeren

Rhagor o wybodaeth

Mae rhestr fwy cynhwysfawr ar gael ar y dudalen eithriadau rheoli adeiladu ar wefan yr LABC.