Skip to main content
Beth yw hawliau datblygiad a ganiateir?

Beth yw hawliau datblygiad a ganiateir?

Project type

Nid oes angen caniatâd cynllunio ar bob math o waith adeiladu y gallwch ei wneud ar eich cartref. Mae rheolau "datblygiad a ganiateir" yn berthnasol i rai mathau o waith, sy'n golygu nad oes angen caniatâd cynllunio.

Dyma rai mathau o waith y ceir eu gwneud fel datblygiad a ganiateir (gyda meini prawf llym iawn):

  • Ehangu neu estyn eich tŷ
  • Ychwanegu at eich to neu ei addasu
  • Codi porth
  • Codi tai allan
  • Gosod tramwyfeydd ar eich tir
  • Gosod, addasu neu amnewid simnai
  • Gosod, addasu neu amnewid dysgl lloeren

Mae gan rai awdurdodau lleol hawl i wrthod hawliau datblygiad a ganiateir o dan "Gyfarwyddyd Erthygl 4" neu efallai y byddant wedi cymryd yr hawl oddi ar eich eiddo chi. Holwch eich awdurdod lleol fel rhan o'ch gwaith cynllunio cyn y prosiect i gael gwybod a yw hyn wedi digwydd. A chofiwch nad yw hawliau datblygiad a ganiateir yn berthnasol i fflatiau un na dau lawr.

D.S., hyd yn oed os nad oes angen caniatâd cynllunio, gallai fod angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu!

Rhagor o wybodaeth

Cewch ragor o wybodaeth ynghylch a oes angen caniatâd cynllunio yn y tudalennau gwybodaeth am y math o brosiect yr ydych yn ei wneud ar y wefan hon.

Gallwch hefyd ddarllen canllawiau Llywodraeth y DU am ddatblygiad a ganiateir https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/830643/190910_Tech_Guide_for_publishing.pdf.