A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer fy estyniad tŷ
Project type
Bydd rheolau 'datblygiad a ganiateir' yn berthnasol i estyniad i'ch tŷ (sy'n golygu na fydd angen caniatâd cynllunio) os yw eich estyniad arfaethedig yn cydymffurfio â'r rheolau datblygiad a ganiateir isod.
(D.S. Mae rheolau gwahanol yn berthnasol os ydych chi mewn ardal gadwraeth neu os ydych chi'n bwriadu estyn adeilad rhestredig (gweler isod). A dim ond i dai mae'r rhain yn berthnasol - nid fflatiau un na dau lawr.
Rheolau datblygiad a ganiateir ar gyfer estyniadau
- Nid yw'n llenwi dim mwy na hanner arwynebedd y tir o gwmpas y 'tŷ gwreiddiol' (efallai y gwelwch chi'r term cyfreithiol 'cwrtil' yn cyfeirio at y tir hwn sydd o fewn ffiniau eich eiddo). Y 'tŷ gwreiddiol' yw naill ai sut roedd yn 1948 (gall fod wedi'i estyn cyn hynny) neu sut cafodd ei adeiladu'n wreiddiol (ar ôl 1948).
- Nid yw o flaen y prif weddlun (blaen eich tŷ) na'r ystlyslun (ochr y tŷ) tuag at briffordd (mae hyn yn cyfeirio at ffordd mae gan aelodau'r cyhoedd hawl i deithio yn ôl ac ymlaen arni).
- Nid yw'n uwch na'r darn uchaf o'ch to.
Estyniadau un llawr - Ni chaiff fod yn uwch na phedwar metr
- Ni chaiff ymestyn y tu hwnt i wal gefn y tŷ gwreiddiol fwy nag wyth metr ar gyfer tŷ sengl, neu fwy na chwe metr ar gyfer unrhyw dŷ arall
Mwy nag un llawr - Ni chaiff ymestyn y tu hwnt i wal gefn y tŷ gwreiddiol fwy na thri metr
- Ni chaiff estyniadau dau lawr fod yn agosach na saith metr at ffin gefn eich eiddo.
Estyniadau ochr
- Un llawr ag uchafswm uchder o bedwar metr a lled heb fod yn fwy na hanner lled y tŷ gwreiddiol.
Hefyd:
- Mae'n rhaid i chi ddefnyddio defnyddiau sy'n edrych yn debyg i'r tŷ presennol
- Fydd eich estyniad ddim yn cynnwys ferandas, balconïau na therasau wedi'u codi
- Bydd gwydrau aneglur yn unrhyw ffenestri sy'n wynebu i'r ochr ar y llawr uchaf, a bydd unrhyw agoriad 1.7m uwchlaw'r llawr.
Estyniadau i adeiladau rhestredig
Bydd angen caniatâd cynllunio ac, yn ôl pob tebyg, caniatâd adeilad rhestredig gan adran gynllunio eich cyngor lleol, felly mae'n well siarad â nhw. Mae gan Historic England gyngor ynglŷn a gwaith ar adeiladau rhestredig yn Lloegr, fel man cychwyn.
Estyniadau i gartrefi mewn ardaloedd cadwraeth
Bydd angen caniatâd cynllunio hefyd ar gyfer estyniadau mewn ardaloedd cadwraeth. Cysylltwch ag adran gynllunio eich cyngor i gael cyngor. Eto, mae Historic England yn fan da i ddechrau cael gwybodaeth am adeiladau hanesyddol.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch y dudalen hon gan y Llywodraeth i gael manylion llawn neu siaradwch ag adran gynllunio eich cyngor lleol.