Skip to main content
Cwestiynau cyffredin am geisiadau rheoliadau adeiladu

Cwestiynau cyffredin am geisiadau rheoliadau adeiladu

Project type

Have a question?

Submit

Pryd rydw i'n gwneud y cais?

Rhaid i chi wneud y cais cyn dechrau'r gwaith. Gyda Hysbysiad Adeiladu, fel rheol gallwch ddechrau gweithio tua 48 awr ar ôl ei gyflwyno, ond bydd Hysbysiad Cynlluniau Llawn yn cymryd mwy o amser. Yn yr achos hwn, cewch benderfyniad o fewn pum wythnos, neu, os cytunir ar estyniad â chi, ddau fis ar ôl i chi gyflwyno'r Hysbysiad Cynlluniau Llawn

Beth yw Hysbysiad Adeiladu?

Fel rheol, bydd Hysbysiad Adeiladu'n addas i fân addasiadau a phrosiectau bach - er enghraifft, ffenestr ychwanegol neu dynnu wal fewnol. Mae'n broses gyflymach, sy'n golygu y gallwch ddechrau 48 awr ar ôl ei gyflwyno (neu'n gynharach) ac ni ellir ei defnyddio os ydych yn mynd i fod yn adeiladu dros garthffos gyhoeddus neu'n agos at un. D.S. Mae angen i chi ddeall bod Hysbysiad Adeiladu'n rhoi mwy o gyfrifoldeb ar y sawl sy'n gwneud y gwaith a pherchennog yr eiddo.

Beth yw cais Cynlluniau Llawn?

Mae'n seiliedig ar luniadau, manylion dylunio, manyleb a chyfrifiadau ac fel rheol caiff y gwaith ar gyfer y cais ei wneud gan y pensaer neu'r asiant lluniadu cynlluniau sy'n dylunio eich prosiect. Ar ôl ei dderbyn, bydd y cyngor yn asesu eich cynllun ac yn ymgynghori â'r gwasanaethau dŵr a thân os oes angen. Os nad oes unrhyw ymholiadau, neu os bydd unrhyw ymholiad wedi'i ddatrys, bydd y tîm rheoli adeiladu'n cyhoeddi Hysbysiad Cymeradwyo o fewn pum wythnos ar ôl dyddiad y blaendal (neu ddau fis os ydych wedi cytuno ag estyniad). Gellir rhoi Cymeradwyaeth Amodol a bydd angen gwybodaeth bellach yn ddiweddarach.

A ddylwn siarad â'r tîm rheoli adeiladu cyn gwneud cais rheoliadau adeiladu?

Nid oes rhaid, ond gall helpu i dawelu eich meddwl. Os rhowch gyfeiriad ac amlinelliad o'r prosiect, gallant drafod beth y byddent yn ei ddisgwyl o ran amodau'r tir yn lleol, materion lleol a'ch math o eiddo. Mae ganddynt lawer o wybodaeth leol a gallant siarad â chi am faterion na fyddwch efallai wedi meddwl amdanynt. Mae'r gwasanaeth hwn yn ddi-dâl fel rheol.

Pwy sy'n gwneud y cais rheoliadau adeiladu?

Mae'r broses yn hawdd a gallwch wneud y cais eich hun, neu gall eich asiant, eich ymgynghorydd pensaernïol neu eich adeiladwr ei wneud ar eich rhan.

Sut gallaf ddod o hyd i fanylion cyswllt fy nghyngor er mwyn gwneud cais rheoliadau adeiladu?

Gallwch ddefnyddio'r blwch chwilio 'Dod o hyd i fy awdurdod lleol' uchod; bydd hwn yn rhoi manylion cyswllt adran rheoli adeiladu eich awdurdod lleol.

Sut rydw i'n gwneud y cais?

Gallwch wneud hyn ar-lein, drwy edrych ar wefan eich cyngor i ddod o hyd i'r adran rheoli adeiladu, yna chwilio am 'cais rheoliadau adeiladu' neu 'cais rheoli adeiladu'. Mae'n debyg y cewch ddewisiadau ar gyfer sut i wneud cais – ar-lein, drwy'r post neu dros y ffôn.

Beth mae'r cais yn ei gynnwys?

Gall fod wedi'i rannu'n adrannau; yn gyntaf, cofrestru a gwirio'r cais ac yn ail, ymwneud â'r holl archwiliadau sydd eu hangen wrth i'r gwaith ddigwydd.

Faint mae cais rheoliadau adeiladu'n ei gostio?

Bydd hynny'n dibynnu ar fath, maint, gwerth a/neu gymhlethdod eich prosiect. Siaradwch a thîm rheoli adeiladu eich cyngor os nad yw hyn wedi'i nodi ar eu gwefan a chofiwch y gallai fod rhaid i chi dalu'n llawn wrth wneud eich cais.

A yw'r ffi'n amrywio o gyngor i gyngor?

Mae pob awdurdod lleol yn gosod ei ffioedd ei hun. Ni fydd yr awdurdod yn elwa o'r gwasanaeth hwn a dim ond digon i dalu ei gostau fydd y ffi.

Pa mor hir mae'n ei gymryd i brosesu'r cais?

Fel rheol, cewch ddechrau gweithio cyn gynted â bod yr Hysbysiad Adeiladu wedi'i gymeradwyo (fel rheol, ni fydd hyn yn cymryd mwy na 48 awr). Os ydych wedi cyflwyno cais Cynlluniau Llawn, gall gymryd hyd at bum wythnos i gael penderfyniad y cyngor. Efallai y byddant yn gofyn am gael estyn y cyfnod hwn, ond bydd angen eich caniatâd chi i wneud hynny.

Am ba mor hir y mae cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu'n ddilys?

Maent yn dod i ben dair blynedd ar ôl dyddiad cyflwyno'r hysbysiad i'r cyngor, os nad yw'r gwaith wedi'i ddechrau.

Beth sy'n digwydd os caiff fy nghais ei wrthod?

Gofynnir i chi neu eich asiant gyflwyno rhagor o wybodaeth neu wneud addasiadau i'r cynlluniau. Cyn gynted ag y bydd y rhain wedi'u derbyn a'u cymeradwyo, caiff eich cais ei gymeradwyo. Ni fydd angen i chi ymgeisio eto oni bai bod y cynlluniau'n newid yn sylweddol.

Beth sy'n digwydd os na wnes i gais?

Os ydych chi neu berchennog blaenorol wedi gwneud gwaith heb gael caniatâd, mae'n bosibl y gallwch wneud cais am gymeradwyaeth ôl-weithredol. Cymeradwyaeth unioni yw hyn. Dim ond ar gyfer gwaith a wnaethpwyd ar 11 Tachwedd 1985 neu ar ôl hynny y mae hyn yn bosibl. Bydd gofyn i chi gyflwyno cynlluniau a chyfrifiadau i ddangos beth a wnaethpwyd, a chaiff y gwaith ei archwilio. Cofiwch y gellid gofyn i chi agor gwahanol rannau o'r adeilad er mwyn i'r syrfëwr allu archwilio pethau sydd wedi'u gorchuddio fel trawstiau, peipiau a defnydd inswleiddio. Os yw popeth yn bodloni'r rheoliadau a oedd mewn grym ar adeg gwneud y gwaith, cewch chi Dystysgrif Unioni.

Dechrau gweithio

Cyn gynted â'ch bod wedi cael eich Hysbysiad Cymeradwyaeth neu wedi cofrestru eich Hysbysiad Adeiladu, mae'n rhaid i chi neu eich adeiladwr hysbysu'r tîm rheoli adeiladu pan fyddwch yn dechrau gweithio. Byddant yn rhoi gwybod i chi pa gamau o'r gwaith y mae angen eu harchwilio. Yna, mae'n rhaid i chi wneud cais am ymweliad ar yr adegau hynny a phan fydd y gwaith wedi'i gwblhau. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â'r tîm rheoli adeiladu neu drwy ddefnyddio ap archwiliadau'r LABC sydd ar gael ar Google Play a siop Apple os yw eich cyngor arno. Os yw popeth yn bodloni'r rheoliadau a'r gwaith yn cael ei ystyried yn foddhaol, cewch chi Dystysgrif Cwblhau.