Skip to main content
A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith tirlunio?

A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith tirlunio?

Bydd angen caniatâd cynllunio os ydych am balmantu eich gardd ffrynt i greu darn o dir ag arwyneb o ddefnydd caled (llawr caled) sy'n fwy na phum metr sgwâr os nad ydych yn defnyddio defnyddiau athraidd fel graean neu balmantwyr (cerrig palmant) athraidd arbennig.

Mae hyn oherwydd bod trawsnewid gerddi i greu tramwyfeydd mewn ardaloedd trefol wedi golygu bod mwy o ddŵr yn mynd i mewn i'r draeniau storm pan fydd hi'n glawio, sydd yna wedi cyfrannu at fwy o lifogydd.

Caniatâd cynllunio ar gyfer decin?

Os ydych yn adeiladu decin, mae'n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio.

I osgoi hyn, mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn bodloni'r canlynol:

  • Nid yw'r decin dros 30cm yn uwch na'r ddaear.
  • Ynghyd ag estyniadau a thai allan eraill, ac ati, nid yw'r decin neu'r llwyfannau'n gorchuddio mwy na 50% o arwynebedd yr ardd.
  • Nid yw dim o'r decin neu'r llwyfan ar dir o flaen wal sy'n ffurfio'r prif weddlun (h.y. o flaen y tŷ).

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio hyn cyn gosod eich decin, oherwydd caiff y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio ôl-weithredol eu gwrthod a gallech orfod tynnu eich dec newydd i lawr.

Os nad oes gennych ganiatâd cynllunio ar gyfer dec neu brosiect rheoladwy arall, gall hyn hefyd wneud gwerthu eich eiddo'n broses fwy cymhleth.

Os oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich decin, bydd angen i chi hefyd ddilyn rheoliadau adeiladu ac ystyried pethau fel yr adeiledd a maint y distiau, grisiau a sut y byddwch yn defnyddio gardiau addas i atal pobl rhag syrthio oddi ar yr ymyl.

Rhagor o wybodaeth

A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer gwaith tirlunio? [Cyswllt]

Dogfen Gymeradwy A Lloegr – Adeiledd 

Dogfen Gymeradwy A Cymru – Adeiledd