Skip to main content
Beth yw'r materion sy'n ymwneud â thynnu stac simnai neu frest simnai?

Beth yw'r materion sy'n ymwneud â thynnu stac simnai neu frest simnai?

Project type

A ydych yn gobeithio ychwanegu lle yn eich ystafell fyw neu ystafell wely drwy dynnu brest simnai? Neu a hoffech ddymchwel yr holl adeiledd am ei fod wedi'i ddifrodi ac yn rhy gostus i'w atgyweirio o hyd?

Mae tynnu simnai'n gallu bod yn dasg gostus sy'n cymryd amser hir, a gan ei fod yn gallu achosi difrod adeileddol difrifol os caiff ei wneud yn wael (mae'n adeiledd cynnal pwysau), dylid gofyn i weithiwr proffesiynol profiadol yr ydych yn ymddiried ynddo wneud y gwaith.

Brest y simnai

Brest y simnai yw'r rhan weladwy o'r simnai sydd yn y golwg ar bob llawr yn eich tŷ (oni bai bod rhai wedi'u tynnu allan). Mae'n darparu cynhaliad adeileddol pwysig yn eich cartref.

Bydd angen cais rheoliadau adeiladu i dynnu brest simnai. Bydd angen cyflwyno dyluniadau eich peiriannydd adeileddol i'r tîm rheoli adeiladu cyn dechrau gwaith. Gall cais Cynlluniau Llawn fod yn well na Hysbysiad Adeiladu, oherwydd bydd angen i chi gyflwyno cyfrifiadau i gael eu cymeradwyo cyn i chi ddechrau'r gwaith. Gweler y cwestiynau cyffredin am y rheoliadau adeiladu am fanylion [cyswllt]

Ystyriaethau

  • Mae'n bosibl y bydd angen caniatâd arall, er enghraifft os ydych mewn adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth – siaradwch â'ch awdurdod cynllunio lleol i gael gwybod.
  • Holwch beiriannydd adeileddol a fydd yn gallu meddwl am ffordd o weithio a chanfod pa gymorth fydd ei angen. Gallai hyn olygu y bydd angen trawst dur wedi'i amddiffyn rhag tân neu ddefnyddio bracedi (bracedi crocbren) ond eich peiriannydd adeileddol yw'r un a all roi cyngor am hyn.
  • Os yw brest y simnai'n sownd wrth wal rhwng eich cartref ac adeilad arall, bydd angen i chi gyflwyno Hysbysiad Wal Gydrannol [cyswllt] i'ch cymydog cyn y gall y gwaith ddechrau.
  • Mae angen gwahanu a newid/tynnu unrhyw offer a gwasanaethau nwy, plymwaith neu drydan cyn i chi ddechrau.

Stac y simnai

Efallai yr hoffech dynnu stac y simnai am ei bod wedi'i difrodi ac yn gollwng dŵr.

Ni fydd angen cais rheoliadau adeiladu i dynnu'r stac uwchben llinell y to yn unig.

Fodd bynnag, bydd angen cais rheoliadau adeiladu i dynnu holl stac y simnai drwy'r tŷ i gyd oherwydd mae'n bosibl y bydd y stac yn cynnal waliau, lloriau neu adeiledd y to.

Mae'n dasg lle gall llawer o bethau fynd o chwith, gan adael problemau ag awyru, lleithder a hyd yn oed dymchwel adeileddol os caiff ei gwneud yn anghywir, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflogi rhywun â phrofiad o'r gwaith i'w wneud.

Os ydych yn cynllunio i dynnu rhan o stac simnai, yn ddelfrydol dylid lleihau'r stac fel nad yw'n ddim mwy nag un metr uwchben y rhan uchaf o'r lle mae'n dod allan o'r to, ond holwch eich swyddog cynllunio yn gyntaf, oherwydd gallai fod angen caniatâd cynllunio i wneud hyn.

Os yw stac yn ffurfio bwtres, bydd rhaid i beiriannydd adeileddol archwilio sefydlogrwydd y wal.

Bydd hyn yn digwydd os yw'r simnai'n wal hir heb wal frics arall ar 90 gradd iddi, heblaw am unrhyw waliau allanol sy'n dychwelyd. Ni chaiff y wal mewn adeilad dau lawr fod yn uwch na naw metr heb fwtres, neu 12 metr mewn adeilad un llawr.

Os ydych yn rhannu stac â'ch cymydog, bydd rhaid tynnu'r stac i gyd, felly bydd rhaid i chi gytuno, ac os yw ar wal gydrannol bydd angen i chi gyflwyno Hysbysiad Wal Gydrannol [cyswllt] i'ch cymydog cyn y gall y gwaith ddechrau.

Rhagor o wybodaeth

A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer offer gwresogi?

Beth yw'r materion sy'n ymwneud ag offer gwresogi?