Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cynllunio a rheoli adeiladu
Project type
Mae'n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer eich gwaith, felly dylech gael gwybod ymhell o flaen llaw a oes angen y naill neu'r llall cyn dechrau eich prosiect.
Caniatâd cynllunio
Bydd eich cyngor lleol yn rhoi caniatâd cynllunio (neu gymeradwyaeth cynllunio) os yw eich prosiect yn bodloni eu meini prawf llym. Heb system gynllunio, gallai pawb adeiladu adeiladau neu ddefnyddio tir sut bynnag y dymunent, beth bynnag fyddai effaith hyn ar bobl eraill sy'n byw ac yn gweithio yn eu hardal.
Felly mae cynllunio'n ymwneud â defnyddio tir a lle yn lleol ac mae'n debygol y bydd angen caniatâd ar y rhan fwyaf o adeiladau newydd neu newidiadau i adeiladau.
Fel rheol, ni fydd ei angen ar gyfer:
- Y rhan fwyaf o addasiadau mewnol
- Rhai estyniadau
- Rhai trawsnewidiadau atig
- Rhai garejis
Os yw eich cartref yn adeilad rhestredig neu mewn ardal gadwraeth, mae'n debygol y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig, sy'n fath arall o ddeddfwriaeth, felly dylech siarad â'r swyddog cadwraeth yn eich cyngor lleol ac mae'n debygol y bydd angen help pensaer arnoch.
Weithiau, caiff prosiectau eu dosbarthu'n fân waith adeiladu, neu ddatblygiad a ganiateir, ac ni fydd angen caniatâd cynllunio. Mae'r polisïau sy'n caniatáu datblygiad a ganiateir wedi cael eu hehangu yn y blynyddoedd diwethaf a dylech holi eich cyngor lleol – fel rheol, bydd llawer o gyngor am ddim ar eu gwefan. (Gweler hefyd Beth yw hawliau datblygiad a ganiateir?)
Nid oes gan rai tai hawliau datblygiad a ganiateir.
D.S. Bydd yn cymryd o leiaf wyth wythnos i gael caniatâd cynllunio, ar ben yr amser y mae'n ei gymryd i baratoi'r cynlluniau i'w cyflwyno, felly gadewch ddigon o amser i wneud yn siŵr nad yw'n dal eich prosiect yn ôl.
Mae cynllunio'n ymwneud â lleoliad y prosiect, y safle, uchder a maint yr adeilad a'r canran o'r plot yr ydych yn bwriadu adeiladu arno.
Mae'r awdurdod cynllunio'n edrych ar bethau fel polisïau lleol, edrychiad, defnyddiau, lliw defnyddiau, sut mae'r brics a'r teils yn cyd-fynd â'r gwreiddiol. Mae angen i'ch cyngor lleol gytuno â'r pethau hyn i gyd cyn i chi adeiladu ar y safle.
Gallwch wneud cais am ganiatâd cynllunio ar-lein gan ddefnyddio'r Porth Cynllunio
Rheoliadau adeiladu
Mae rheoliadau adeiladu'n safonau gofynnol cyfreithiol ar gyfer dylunio ac adeiladu adeiladau i sicrhau diogelwch ac iechyd pobl sydd yn yr adeiladau hynny neu o'u cwmpas, ac mae'n bwysig deall na fyddant o reidrwydd yn sicrhau y bydd y gwaith yn berffaith - bydd angen arbenigwyr i'w ddylunio a'i adeiladu o hyd.
Caiff y rheoliadau eu gorfodi gan gyrff rheoli adeiladu sy'n archwilio cynlluniau a'r gwaith ei hun ar y safle i sicrhau cydymffurfiad â'r rheoliadau adeiladu. Gallwch ddefnyddio arolygwyr cymeradwy neu gwmnïau rheoli adeiladu preifat ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis defnyddio arbenigedd adran rheoli adeiladu neu arolygwyr adeiladu eich awdurdod lleol. Maent yno i'ch helpu i'ch amddiffyn eich hun a'ch arian rhag adeiladwyr diegwyddor ac arferion anniogel.
Hyd yn oed os nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer 'datblygiad a ganiateir', gall rheoliadau adeiladu fod yn berthnasol a gall fod angen gwneud cais.
Rhagor o wybodaeth
Pwy sy'n gyfrifol am gydymffurfiad â'r rheoliadau adeiladu?
Y rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio ar gyfer adeiladau rhestredig