Beth yw'r rheoliadau adeiladu
Project type
Mae'r rheoliadau adeiladu'n safonau technegol gofynnol a bennir gan y Llywodraeth i ymdrin ag adeiladu, estyn ac addasu'r rhan fwyaf o adeiladau.
Mae'r rhan fwyaf o waith adeiladu a llawer o fathau o waith gwella cartrefi'n "hysbysadwy" sy'n golygu bod rhaid i chi neu eich adeiladwr neu asiant hysbysu'r tîm rheoli adeiladu cyn dechrau gwaith, oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud gan osodwyr sydd wedi'u cofrestru â chynllun Unigolion Cymwys sy'n gallu hunanardystio bod eu gwaith yn cydymffurfio.
D.S. Chi, perchennog yr adeilad, sy'n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfiad â'r rheoliadau adeiladu.
Caiff y rheoliadau adeiladu eu hategu gan "Ddogfennau Cymeradwy" sy'n rhoi arweiniad ar gyfer sut i fodloni'r rheoliadau adeiladu mewn sefyllfaoedd adeiladu cyffredin.
A syrfewyr rheoli adeiladu yw'r gweithwyr proffesiynol sy'n archwilio cydymffurfiad â'r rheoliadau adeiladu.
Beth mae'r rheoliadau'n ymwneud ag ef?
Mae'r rheoliadau adeiladu'n ymdrin â phynciau penodol gan gynnwys: uniondeb adeileddol, diogelwch tân, hygyrchedd, perfformiad egni, perfformiad acwstig, amddiffyn rhag disgyn, diogelwch trydan a nwy.
Maent hefyd yn berthnasol i ddraenio, awyru, amddiffyn rhag i ddŵr lifo i mewn ac amddiffyn rhag halogiad gan gynnwys nwyon methan a radon.
Mae rhai mathau o fân waith yn eithriedig
Mae'r rheoliadau adeiladu'n gyfres o safonau â'r bwriad o ddiogelu pobl a'u hiechyd a'u lles mewn adeiladau ac o'u cwmpas.
Cysylltau at y Dogfennau Cymeradwy
Mae'r Dogfennau Cymeradwy'n rhoi arweiniad ynglŷn â sut i fodloni'r rheoliadau adeiladu. Maent yn amrywio yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac mae cysylltau at ddogfennau Cymru a Lloegr i'w cael ar y wefan hon.
Dyma gysylltau at y gyfres lawn o ddogfennau Cymru a Lloegr (i'w llwytho i lawr am ddim) yn ogystal â chanllawiau technegol pellach:
A dyma'r cysylltau at Ddogfennau Cymeradwy yr Alban a Gogledd Iwerddon: