Skip to main content
A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer fy nhai allan

A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer fy nhai allan

Project type

Mae'r angen neu beidio am ganiatâd cynllunio ar gyfer tai allan yn dibynnu'n bennaf ar eu maint a'u lleoliad. Mae tai allan yn cynnwys:

  • siediau
  • pyrth ceir sy'n agor ar ddwy ochr
  • tai gwydr sydd ddim yn cael eu defnyddio ar gyfer adwerthu, pecynnu nac arddangos
  • tai haf
  • rhandai
  • pyllau nofio
  • ystafelloedd gardd, swyddfa ardd neu stiwdio ardd
  • pergola wedi'i orchuddio

Datblygiad a ganiateir

Ni fydd angen caniatâd cynllunio os yw rheolau datblygiad a ganiateir y Llywodraeth yn berthnasol i'r tŷ allan.

  • Ni fydd o flaen y prif weddlun (hynny yw, o flaen y tŷ).
  • Bydd yn un llawr a bydd uchafswm uchder y bondo'n 2.5 metr ac uchafswm yr uchder cyffredinol yn bedwar metr â tho rhediad deuol neu'n dri metr ag unrhyw fath arall o do.
  • Ni ddylai fod yn agosach na dau fetr at ffin eich eiddo (oni bai bod ei uchder yn llai na 2.5 metr).
  • Bydd uchafswm uchder yr adeilad yn 2.5 metr.
  • Ni fydd feranda, balconi na llwyfan wedi'i godi ar yr adeilad (os oes llwyfan, ni chaiff ei uchder fod dros 0.3 metr).
  • Dim mwy na hanner arwynebedd y tir o gwmpas y tŷ gwreiddiol, sef y tŷ fel yr oedd pan gafodd ei adeiladu neu fel yr oedd yn 1948 (os cafodd ei adeiladu cyn hynny). Mae hyn yn wahanol ar gyfer eiddo ar dir dynodedig lle, os yw dros 20 metr oddi wrth y tŷ, mae'r arwynebedd wedi'i gyfyngu i 10 metr sgwâr.
  • Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw dŷ allan ar y tir o gwmpas adeilad rhestredig.

Ar adeiladau ar dir dynodedig, bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer amgaeau, cynwysyddion a phyllau wrth ochr yr eiddo a bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer tai allan sy'n cael eu hadeiladu ar y tir o gwmpas adeilad rhestredig.

D.S. os yw'r tŷ allan yn mynd i gael ei ddefnyddio fel llety byw hunangynhaliol, bydd angen caniatâd cynllunio.

Os nad ydych yn siŵr a yw'r adeilad yr ydych yn ei gynllunio'n perthyn i gategori 'tai allan' neu os nad ydych yn siŵr a oes angen caniatâd cynllunio, cysylltwch â'ch awdurdod cynllunio lleol.

Rhagor o wybodaeth

A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy nhai allan?