Skip to main content
A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer pwll nofio?

A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer pwll nofio?

Project type

Pyllau nofio y tu allan

Fel rheol, nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer pyllau nofio y tu allan. Bydd yr awdurdodau cynllunio'n ystyried bod pwll y tu allan yn 'brosiect gardd' ond dylech holi eich awdurdod lleol rhag ofn. Gall fod cyfyngiadau ychwanegol os yw eich eiddo:

  • Mewn parc cenedlaethol
  • Ar dir llain las
  • Mewn ardal gadwraeth
  • Ar dir dynodedig
  • Mewn adeilad rhestredig

Gall fod cyfamodau cyfreithiol yn berthnasol i'ch eiddo hefyd.

Pyllau nofio y tu mewn

Fel rheol, caiff yr adeilad lle mae'r pwll nofio y tu mewn wedi'i leoli ei ddosbarthu'n 'ddatblygiad a ganiateir' ac ni fydd angen cais cynllunio, gan ddibynnu ar ddatblygiadau blaenorol ar eich eiddo ac ar yr amodau canlynol:

Yr adeilad

At ddibenion cynllunio, rhaid i dai allan fod yn un llawr. Dylai fod uchafswm uchder y bondo'n 2.5 metr ac uchafswm yr uchder cyffredinol yn bedwar metr â tho rhediad deuol neu'n dri metr ag unrhyw fath arall o do.

Ni chaniateir feranda, balconi na llwyfan wedi'i godi (rhaid i unrhyw lwyfan fod yn 0.3 metr ar yr uchaf) ar yr adeilad. Mae hyn yn cynnwys decin – mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer decin uwch na 0.3m.

Bydd uchafswm uchder yr adeilad yn 2.5 metr. Ni cheir lleoli'r tŷ allan ar dir sydd o flaen wal sy'n ffurfio'r prif weddlun (o flaen y tŷ). Dim ond hanner arwynebedd y tir o gwmpas eich tŷ ddylai fod wedi'i orchuddio ag adeiladau neu ychwanegiadau eraill.

Cysylltwch â'ch swyddfa gynllunio leol cyn dechrau gwaith ar y prosiect.

Rhagor o wybodaeth

A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer pwll nofio?