Skip to main content
A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer gwaith tirlunio

A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer gwaith tirlunio

Project type

Fel rheol, nid oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer gwaith tirlunio ond sylwch, os ydych yn tynnu symiau mawr o bridd, gallai fod angen i chi adeiladu wal gynnal a bydd angen i chi siarad â pheiriannydd adeileddol.

Os ydych yn tirlunio'n agos at eich cartref, gwnewch yn siŵr bod lefelau'r pridd yn ddigon isel i beidio ag achosi lleithder yn eich eiddo (dau gwrs h.y. dwy haen o frics neu gerrig) o dan y cwrs gwrthleithder a pheidiwch â blocio unrhyw awyrellau aer.

Yn gyffredinol, nid oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer tramwyfa neu fan patio newydd, ond bydd angen i chi wneud yn siŵr nad yw unrhyw addasiadau'n gwneud mynedfa'r anheddiad yn llai boddhaol nag yr oedd o'r blaen.

Felly, er enghraifft, byddai newid lefelau i gyflwyno grisiau lle nad oedd rhai o'r blaen yn groes i'r rheoliadau. Os oes gan eich cartref drothwy gwastad allanol i mewn i ystafell, neu ramp, bydd angen cadw'r rhain.

Y rheoliadau adeiladu ar gyfer decin

Os oes angen caniatâd cynllunio[cyswllt] ar eich decin, bydd y rheoliadau adeiladu hefyd yn berthnasol a bydd angen i chi ystyried pethau fel:

  • yr adeiledd a'i sefydlogrwydd
  • maint distiau ac a ydynt wedi'u dal yn sownd
  • unrhyw risiau sydd eu  hangen
  • sut y byddwch yn defnyddio gardiau addas i atal pobl rhag syrthio dros yr ymyl

Rhagor o wybodaeth

A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer gwaith tirlunio?

A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy nhai allan?