Skip to main content
A fydd angen rheoliadau adeiladu ar gyfer pwll nofio?

A fydd angen rheoliadau adeiladu ar gyfer pwll nofio?

Pyllau nofio y tu allan

Fel rheol, nid oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer pyllau nofio y tu allan.

Yr unig beth y mae'r rheoliadau adeiladu ar gyfer pyllau nofio y tu allan yn ei nodi yw bod rhaid iddynt fod yn agored heb ddim aer wedi'i wresogi o gwmpas y pwll.

Bydd unrhyw bwll y tu allan ag adeiledd parhaol drosto'n troi'n bwll y tu mewn, ond cyn belled ag nad yw'r adeiledd wedi'i wresogi na'i awyru, ni fydd rhaid iddo gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.

Er nad yw'r rheoliadau adeiladu'n berthnasol i byllau y tu allan heb eu gorchuddio, gallwch ddal i helpu'r amgylchedd drwy wneud yn siŵr bod y pwll wedi'i inswleiddio'n iawn a gosod gorchudd o ansawdd da i gadw gwres y dŵr.

Byddwch yn arbed arian ar gostau cynnal eich pwll drwy wneud hyn hefyd, oherwydd bydd y dŵr yn y pwll yn aros yn gynhesach am amser hirach.

Pyllau nofio y tu mewn

Mae'r rheoliadau adeiladu'n berthnasol i byllau nofio y tu mewn, ac mae'r gofynion yn fwy cymhleth nag ar gyfer pwll y tu allan.

Mae'n rhaid inswleiddio llawr a waliau'r pwll ei hun er mwyn lleihau colledion gwres i'r ddaear. Dylid lleihau'r colledion gwres hyn i 0.25W/m2/0C, sy'n cyfateb yn fras i bwll wedi'i wresogi i 28C a thymheredd y ddaear tua 10C.

Cysylltwch â'ch tîm rheoli adeiladu cyn dechrau gwaith ar y prosiect.

Rhagor o wybodaeth

Cwestiynau cyffredin am geisiadau rheoliadau adeiladu

A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer pwll nofio?