Pa yswiriant sydd ei angen arnaf ar gyfer fy mhrosiect gwella cartref
Project type
Pa yswiriant perchennog tŷ sydd ei eisiau arnaf?
Cysylltwch â'ch darparwyr yswiriant cartref cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau oherwydd mae'n bosibl y bydd angen yswiriant ychwanegol wrth i'r gwaith ddigwydd. Gallant hefyd gynghori am yswiriant arbenigol os:
- bydd eich cartref yn wag am gyfnod yn ystod y gwaith
- oes llawer i'w wneud,
- bydd angen cadw cyfarpar arbenigol drud ar y safle
Pan fydd y gwaith wedi'i orffen, cysylltwch â hwy eto oherwydd mae'n bosibl iawn y bydd angen addasu cyfanswm gwerth eich yswiriant.
Nid yw hyn yn berthnasol os mai newidiadau cosmetig yr ydych yn eu gwneud, fel paentio ac addurno, ond mae'n berthnasol os bydd y gwaith yn effeithio ar adeiledd neu gynllun eich cartref, er enghraifft ailwifro, ailblymio neu ychwanegu estyniad.
Cofiwch ei bod yn bosibl na fydd difrod damweiniol yn ddilys os caiff ei achosi gan addasiadau neu waith adnewyddu, ac y gallai fod angen i chi brynu yswiriant ychwanegol ar gyfer hyn.
Pa yswiriant ddylai fod gan fy adeiladwr?
Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
Yswiriant yw hwn ar gyfer hawliadau gennych chi ac aelodau'r cyhoedd sydd wedi dioddef anaf neu ddifrod i eiddo wrth i waith gael ei wneud.
Beth sy'n digwydd os nad oes ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus?
Os yw damwain yn digwydd ac os nad oes gan eich adeiladwr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, gallai hyn olygu mai chi sy'n atebol. Os nad yw'r yswiriant gan yr adeiladwr, bydd angen i chi ei ddarparu eich hun.
Yswiriant atebolrwydd cyflogwr
Os oes gan eich adeiladwr weithwyr cyflogedig mae'r gyfraith yn mynnu bod ganddo'r yswiriant hwn – mae'n eich yswirio chi a'r adeiladwr os caiff un o'r gweithwyr cyflogedig ei frifo wrth weithio.
D.S. Gofynnwch am gael gweld tystysgrif i brofi bod gan yr adeiladwr yr yswiriannau hyn.
Pa yswiriant ddylai fod gan fy ymgynghorydd pensaernïol?
Dylai fod gan eich ymgynghorydd pensaernïol yswiriant indemniad proffesiynol.
Mae angen yswiriant indemniad proffesiynol ar unrhyw un sy'n rhoi cyngor i gleientiaid, neu wasanaethau dylunio neu reoli prosiect. Mae'n yswirio rhag hawliadau am golled neu ddifrod o ganlyniad i esgeulustod proffesiynol.
Gall Cyngor ar Bopeth roi arweiniad am yswiriannau a mwy cyn i chi drefnu gwaith adeiladu