Skip to main content
A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i osod peipen haul neu dwnnel haul

A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i osod peipen haul neu dwnnel haul

Project type

Tiwbiau adlewyrchol yw peipiau haul, tiwbiau golau neu dwnelau haul. Maent yn gallu cyflwyno golau naturiol i gornel dywyll yn eich cartref.

Maent yn cynnwys cromen, cap neu olau to bach a thiwb adlewyrchol sy'n mynd i lawr drwy'r adeilad mewn dwythell, i orffen â thryledwr yn yr ystafell sy'n dosbarthu'r golau i ble mae ei angen.

Nid yw'r rhain yn awyru felly ni ellir eu defnyddio ar eu pennau eu hunain os ydych yn ffurfio ystafell heb ffenestr.

Yn gyffredinol, ni fydd angen cais rheoliadau adeiladu heblaw o dan yr amodau canlynol:

  • Mae'n agos at wal gydrannol.
  • Mae'n mynd rhwng dwy adran dân ar wahân, felly mae'n ffurfio risg o ledaenu tân.
  • Byddai'n golygu bod angen symud ceibr neu ddist. Byddai hyn yn cael ei ddosbarthu'n addasiad adeileddol.

Rhagor o wybodaeth

A fydd angen caniatâd cynllunio i osod peipen haul neu dwnnel haul?