Pryd mae angen gwydr diogelwch mewn drysau a ffenestri, a pha fath?
Project type
Mae'n rhaid i'r gwydr mewn drysau a ffenestri fodloni gofynion y rheoliadau adeiladu ar gyfer gwydr diogelwch mewn rhai mannau critigol. Mae hyn yn golygu naill ai na fydd y gwydr yn torri, neu y bydd yn torri'n ddiogel fel ffenestr car.
Mannau critigol
Gellir ystyried bod y lleoliadau canlynol yn y diagram isod (o Ddogfen Gymeradwy K) yn "gritigol" o ran diogelwch:
- Gwydr mewn drysau sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn 1500mm i lefel y llawr.
- Gwydr yn gyfagos i ddrysau sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn 300mm i ymyl drws ac sydd hefyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn 1500mm i lefel y llawr
- Gwydr ar lefel isel sydd ddim yn bodloni (1) na (2). Gwydr sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn 800mm i lefel y llawr.
Mae'r mannau wedi'u tywyllu'n dangos lleoliadau critigol y mae gofynion y rheoliadau adeiladu yn Nogfen Gymeradwy K yn berthnasol iddynt.
Gellir gosod gwydr diogelwch sy'n cydymffurfio â BS 6206 mewn 'lleoliadau critigol' sydd wedi'u categoreiddio fel Dosbarth A, B, neu C; A yw'r radd uchaf i wydr diogelwch.
Gellir dosbarthu gwahanol fathau o wydr fel gwydr diogelwch
Gwydr gwydn (neu wydr wedi'i dymheru) - Dosbarth A
Mae hwn yn edrych fel gwydr cyffredin ond mae'n cael triniaeth arbennig â gwres i'w wneud yn fwy gwydn. Mae'n llawer cryfach na gwydr arferol ac ar ardrawiad, mae'n chwalu'n ddarnau bach gronynnog fel y gwydr mewn car. Nid yw'r darnau'n finiog, ac mae hyn yn lleihau'r risg o anaf.
Gwydr laminedig - Dosbarth A, B neu C
Mae hwn wedi'i wneud o ddwy neu fwy o lenni o wydr cyffredin a haen ganol blastig yn eu glynu at ei gilydd. Mae'r haen blastig yn darparu rhwystr ac ar ardrawiad, bydd unrhyw deilchion gwydr sydd wedi torri'n dal i fod yn sownd wrth y plastig, gan leihau'r risg o anaf.
Gwydr gwifrog/gwydr gwifrog Sioraidd (neu wydr diogelwch Pyroshield clir/gweadog) - Dosbarth C
Mae gan y gwydr hwn rwydwaith/rhwyll o wifrau wedi'i fewnblannu ynddo. Gall rhai mathau o wydr gwifrog fodloni'r gofynion ardrawiad ar gyfer gwydr diogelwch gan roi rhywfaint o allu i wrthsefyll tân hefyd.
Sut yr wyf yn gwybod a yw'n wydr diogelwch?
Mae Safon Brydeinig 6206 yn mynnu bod pob darn o wydr diogelwch sy'n cael ei ddefnyddio mewn 'lleoliadau critigol' wedi'i farcio â Nod Barcud â'r rhif Safon Brydeinig 'BS 6206'.