Rwy'n meddwl bod fy ffenestr yn ffenestr ddihangfa dân ond nid wyf yn siŵr?
Project type
Pan gafodd eich cartref ei adeiladu, ei estyn neu ei addasu, mae'n bosibl bod ffenestri wedi'u gosod â'r bwriad o gael eu defnyddio i ddianc rhag tân.
Mae gan y rhain ran agoradwy ddirwystr fwy na llawer o ffenestri eraill, ac fel rheol bydd colfach ar yr ochr yn hytrach na bod yn ffenestri gwyro a throi neu golynnu. Yn gyffredinol, mae'n rhaid gosod ffenestri dihangfa dân os ydynt ar y llawr gwaelod mewn unrhyw ystafell drigiadwy nad yw'n agor i mewn i gyntedd sy'n arwain yn uniongyrchol at ddrws allanfa.
Os oes gennych un o'r ffenestri hyn, mae'n rhaid i unrhyw ffenestr newydd fod ag agoriad yr un maint neu fwy a'r un math o golfachau. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ffenestri to sydd wedi'u gosod i ddarparu allanfa argyfwng.
Gofynion ar gyfer ffenestri dihangfa dân
Lled ac uchder: Y naill neu'r llall o leiaf 450mm
Rhan agoradwy glir: Ni chaiff fod yn llai na 0.33m²
Uchder y sil: Ni ddylai gwaelod y rhan agoradwy fod yn fwy na 1100mm uwchben y llawr.
Dim ond un ffenestr ddihangfa i bob ystafell sydd ei hangen fel rheol.
Rhagor o wybodaeth
A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer ffenestri a drysau newydd?