Skip to main content
Beth yw colled gwres thermol mewn perthynas â ffenestri a drysau?

Beth yw colled gwres thermol mewn perthynas â ffenestri a drysau?

Project type

Mae angen i'ch cartref fod mor effeithlon â phosibl o ran egni er mwyn arbed arian wrth ei wresogi a'i oeri, ei wneud yn fwy cyfforddus i fyw ynddo a lleihau allyriadau carbon.

Mae ffenestri gwydr sengl â bylchau o gwmpas y ffrâm, a drysau allanol sydd ddim yn ffitio'n dda â blychau llythyrau sy'n fflapio yn y gwynt, fodd bynnag, yn rhoi ffordd hawdd i wres ddianc o'ch cartref, felly mae'r rhain yn aneffeithlon o ran arbed egni.

Mae'n rhaid i aneddiadau newydd fodloni safonau llym, ac mae angen uwchraddio cartrefi sy'n bodoli hefyd wrth adnewyddu dros 20% o elfen thermol fel to, llawr neu waliau ac weithiau gellir cyflawni hyn drwy osod unedau mwy effeithlon o ran egni yn lle'r ffenestri a'r drysau hynny (ynghyd ag uwchraddio inswleiddio mewn ffyrdd eraill).

Rhagor o wybodaeth

A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer ffenestri a drysau newydd?

A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer ffenestri a drysau