Pryd mae angen gardiau ffenestri?
Project type
Yma, cewch wybod pryd a pham mae angen i chi osod gardiau ffenestri (gardio).
Mae'r rheoliadau adeiladu sy'n ymwneud â gardiau ffenestri (gardio) ar waith er mwyn helpu i amddiffyn plant anturus rhag syrthio.
Felly, bydd angen i chi wneud cais rheoliadau adeiladu cyn dechrau gwaith.
Gofynion ar gyfer gardio
Mae angen gardiau addas ar unrhyw agoriadau ffenestr mewn waliau allanol ag uchderau siliau rhwng 300mm ac 800mm uwchben lefel y llawr gorffenedig, oni bai nad yw'r ffenestr yn agoradwy a bod gwydr laminedig ynddi sy'n gwrthsefyll torri.
Os ydych yn gosod drysau neu ffenestri Ffrengig uchder llawn uwchlaw lefel y llawr gwaelod, bydd angen gosod gardiau cadarn na ellir eu dringo arnynt i atal pobl rhag syrthio allan. Mae'n rhaid i'r rhain fod o leiaf 1100mm o uchder wedi'u mesur o lefel y llawr gorffenedig.
Os oes gennych wal isel rhwng eich llawr a gwaelod y ffenestr, hyd at 300mm o uchder, dylid darparu gard ag uchder 800mm uwchlaw'r lefel hon.
Ga'i ddefnyddio cyfyngyddion ffenestr yn lle hyn?
Nid yw cyfyngyddion ffenestr yn ddewis addas yn lle gard parhaol.
Rhagor o wybodaeth
Gweler Dogfen Gymeradwy K