Skip to main content
Awyru gyda ffenestri, drysau ac awyrellau diferu

Awyru gyda ffenestri, drysau ac awyrellau diferu

Project type

Mae awyru'n bwysig i iechyd a chysur a dyna pam mae'r rheoliadau adeiladu'n mynnu bod ffenestri a drysau'n darparu digon o awyru i ystafelloedd mewn anheddiad.

Bydd y math o awyru a'i faint yn dibynnu ar faint yr ystafell a sut y caiff ei defnyddio.

Er enghraifft, mae angen mwy o awyru (fel rheol, gwyntyllau mecanyddol a ffenestri) mewn ystafelloedd lle caiff ager ei gynhyrchu (ceginau, ystafelloedd ymolchi, ystafelloedd amlbwrpas ac ati) nag mewn ystafelloedd eraill lle gall agoriadau ffenestri o faint addas ac awyru diferu neu awyru nos yn y cefndir fod yn ddigon.

Ni ddylai unrhyw ffenestri newydd leihau'r arwynebedd y gellir ei agor er mwyn awyru.

A ddylwn i osod awyrell nos neu awyrell ddiferu?

Awyru cefndir yw llif aer allanol i mewn i gartref sy'n digwydd heb agor drws neu ffenestr. Slotiau syml mewn ffenestr yw'r awyrellau er mwyn i'r aer allu llifo drwyddynt. Caiff y rhain eu rheoli â llaw a gellir eu cau os yw'r amodau tywydd allanol yn cyfiawnhau hynny.

Nid oes eu hangen os oes gan yr ystafell fricsen aer addasadwy eisoes.

Hefyd, mae angen awyrellau mewn ffenestr newydd os oedd rhai ar y ffenestr a oedd yno o'r blaen, ac mae hyn yn arfer da beth bynnag er mwyn atal anwedd.

Gallwch osod awyrell nos hefyd sy'n caniatáu i chi gloi'r ffenestr mewn safle sydd ar agor ychydig bach, ond nid ydym yn argymell hyn gan y gallai fod yn llai diogel, ac mae'n cynyddu'r risg o ddrafftiau.

Rhagor o wybodaeth

Dogfen Gymeradwy F - Awyru