Skip to main content
A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer ffenestri a drysau? | Drws Ffrynt

A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer ffenestri a drysau? | Drws Ffrynt

Project type

Fel rheol, nid oes angen caniatâd cynllunio i osod ffenestri, drysau a fframiau drysau yn waliau gwreiddiol eich tŷ os yw eu maint neu eu hedrychiad yn debygi'r rhai presennol.

Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddai angen caniatâd cynllunio os oedd amodau ynghlwm wrth y caniatâd gwreiddiol neu os ydych yn dymuno gosod agoriad ffenestr newydd sy'n edrych dros adeilad arall.

Gellir gosod ffenestri gwydr dwbl mewn tŷ fel Datblygiad a Ganiateir cyn belled ag nad yw'r adeilad yn rhestredig nac mewn ardal gadwraeth. Fodd bynnag, gall fod angen caniatâd cynllunio os ydych mewn fflat neu fflat deulawr.

Gan fod amodau'n tueddu i fod yn wahanol o gyngor i gyngor, rydym yn awgrymu eich bod yn gwirio â'ch awdurdod cynllunio lleol i fod yn siŵr.

Rhagor o wybodaeth

A oes angen rheoliadau adeiladu ar gyfer fy ffenestri newydd?