Beth ellir ei wneud am bontydd oer o gwmpas ffenestri a drysau?
Project type
Mannau oer o gwmpas waliau, ffenestri a drysau lle mae bylchau yn y defnydd inswleiddio yw pontydd oer (neu bontydd thermol). Gall y bylchau hyn arwain at broblemau â lleithder, anwedd a malltod du a chostio arian i chi ar eich biliau egni.
Roedd adeiladwyr yn arfer sgriwio ffenestri i mewn i gilfachau solet (y darn cul rhwng ffrâm y ffenestr a'r wal), ond nawr maent yn tueddu i'w slotio i mewn i gaewyr ceudod wedi'u hinswleiddio sy'n eistedd o fewn y wal geudod ac yn atal oerfel a lleithder rhag mynd i mewn.
Fel arall, gallant gau bylchau yng nghil y ffenestr (y darn o gwmpas y ffenestr sy'n dal y ffenestr yn sownd wrth y wal) â bwrdd plastr wedi'i inswleiddio sy'n cynhesu'r arwyneb ac yn helpu i atal malltod rhag ffurfio.
Dylai eich adeiladwr wybod y dull cywir i atal problemau a bydd eich syrfëwr rheoli adeiladu'n chwilio am bontydd oer posibl wrth ymweld â'r safle.