Ble ydw i'n dechrau gyda fy estyniad tŷ newydd?
Project type
Mae'n debygol mai eich cartref yw un o'ch asedau mwyaf. Mae'n fuddsoddiad hirdymor mawr a byddwch chi eisiau iddo addasu i newidiadau i'ch anghenion chi a'ch teulu. A bydd estyniad newydd yn ychwanegiad hyfryd ac ymarferol i'ch cartref.
Ond bydd angen i chi feddwl am rai materion cyn dechrau:
- A fydd ychwanegu estyniad yn ychwanegu gwerth? Siaradwch â'ch gwerthwr tai lleol i gael gwybod.
- Sut rydych chi'n mynd i ddewis eich dylunydd a'ch adeiladwr?
- A fydd angen caniatâd cynllunio ynteu a yw'n ddatblygiad a ganiateir? Bydd hyn yn dibynnu ar yr uchder, y maint, eich lleoliad a ffactorau eraill. Darllenwch am ganiatâd cynllunio ar gyfer estyniadau tai
- A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu? (Awgrym: bydd, yn ôl pob tebyg.) Cewch chi wybod yma.
- Beth yw'r goblygiadau o ran yswiriant?
- A oes gennych chi hawl i adeiladu estyniad os mai lesddeiliad ydych chi? Mae gwybodaeth ar gael gan Gynghrair y Perchenogion tai, a gallan nhw eich helpu chi i ddod o hyd i gyfreithiwr estyniad prydles.
- A fydd eich cymydog yn gwrthwynebu? Bydd rhaid i chi siarad â'ch cymydog cyn dechrau unrhyw waith ar y ffin rhwng eich dau eiddo, ar wal gydrannol neu adeiledd cydrannol, neu yn agos at sylfeini eiddo'r cymydog. Er na all y cymydog eich atal chi rhag gwneud newidiadau cyfreithlon i'ch eiddo, gall effeithio ar sut a phryd cewch chi wneud y gwaith. Cewch chi wybodaeth am sut a phryd i ddweud wrth eich cymydog yn ein herthygl am adeiladu'n agos at gymdogion.
- Pa broblemau neu benderfyniadau ynglŷn ag adeiladu rydych chi'n debygol o'u hwynebu?