Skip to main content
Mae fy estyniad tŷ yn achosi problemau o ran gorgyffwrdd â ffiniau - beth wna'i?

Mae fy estyniad tŷ yn achosi problemau o ran gorgyffwrdd â ffiniau - beth wna'i?

Project type

Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n siarad â'ch cymdogion cyn gwneud gwaith ar eich tŷ unrhyw bryd, ond os ydych chi'n bwriadu gweithio'n agos at ffin eiddo eich cymydog, neu ar y ffin, efallai y bydd angen i chi hefyd roi rhybudd i'ch cymdogion yn unol â'r Ddeddf Waliau Cydrannol.

Mae'r Ddeddf yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Gwaith sy'n cael ei wneud ar wal gydrannol sy'n bodoli.
  • Unrhyw adeilad newydd ar neu ar draws llinell y ffin rhwng y ddau eiddo.
  • Cloddio o fewn tri neu chwe metr i'r adeilad drws nesaf gan ddibynnu ar ddyfnder neu afael y sylfeini.

Bydd angen caniatâd cynllunio hefyd os yw'r sylfeini'n mynd i orgyffwrdd â thir eich cymydog, felly gallai siarad â'ch cymdogion ymlaen llaw helpu i leddfu unrhyw bryderon sydd ganddynt a allai eich atal chi rhag cael caniatâd cynllunio.

Sut rydw i'n cael gwybod ble mae fy ffin?

Mae'n bosibl iawn y gwelwch chi fanylion am ffiniau, waliau a ffensys yn y gweithredoedd eiddo neu yn nogfennau'r Gofrestrfa Tir sy'n ymwneud â'ch tŷ.

Os oes gennych chi forgais, bydd y rhain gan eich benthyciwr ond os oes gennych chi eiddo hŷn, efallai y bydd angen i chi geisio cyngor cyfreithiol i benderfynu ble mae ffiniau.

D.S. Archwiliwch y dogfennau hyn er mwyn cytuno ble mae'r ffin cyn dechrau cynllunio eich estyniad newydd.

Rhagor o wybodaeth

A oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer fy estyniad?

A oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer fy estyniad?