Skip to main content
Pa mor ddwfn ddylai sylfaen fy adeiledd domestig newydd fod?

Pa mor ddwfn ddylai sylfaen fy adeiledd domestig newydd fod?

Dyma restr o bethau y bydd eich dylunydd neu eich adeiladwr yn eu hystyried wrth benderfynu pa mor ddwfn dylai eich sylfeini fod a pha fath o sylfaen i'w ddewis [dolen at erthygl mathau o sylfaen]:

Math o bridd

Mae priddoedd yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd i bresenoldeb dŵr, gan ddibynnu ar y math o bridd a pha mor dda mae'n dal y dŵr. Hefyd, mae angen i bridd allu dal llwyth eich estyniad ac mae'r gallu hwn yn amrywio mewn gwahanol fathau o bridd.

Coed

Mae coed yn agos at eich adeiledd arfaethedig yn gallu achosi problemau os nad yw eich sylfeini'n ddigon dwfn ond gall Cyfrifiannell Dyfnder Sylfeini Gwarant yr LABC eich helpu chi neu eich dylunydd i benderfynu pa mor ddwfn i fynd. Bydd angen i chi nodi'r rhywogaeth, uchder posibl y goeden a'i phellter oddi wrth unrhyw adeiledd.

Tir wedi'i lenwi

Mae'n debyg y bydd angen i chi gloddio o dan lefel y tir sydd wedi'i gloddio a'i lenwi o'r blaen i mewn i bridd ffres. Mae hyn hefyd yn wir os ydych yn adeiladu ar safle oedd yn arfer bod yn safle tirlenwi, lle gallai fod angen math gwahanol o sylfaen gan fod y tir ffres yn gallu bod yn bell o dan yr arwyneb. A bydd angen i chi gymryd mesurau lliniaru ar gyfer unrhyw halogion neu nwyon sy'n bresennol.

Ar gyfer tir wedi'i lenwi, dylech geisio cael cyngor arbenigol gan beiriannydd adeileddol, oherwydd yn gyffredinol bydd angen datrysiad wedi'i beiriannu.

Adeiladau cyfagos

Os oes adeilad cyfagos, yn gyffredinol bydd angen cloddio i lawr i lefel yr adeilad hwnnw o leiaf.

Draeniau a charthffosydd

I atal pwysau eich adeiledd newydd rhag pwyso i lawr ar ddraeniau a charthffosydd sy'n bodoli a'u difrodi, bydd angen i chi gloddio o leiaf at ddyfnder gwaelod y draen neu'r garthffos.

Os yw draen yn mynd drwy sylfaen, bydd rhaid i chi ddarparu linteri i gynnal llwythi'r sylfaen a'r waliau uwch ei phen ac atal y draen rhag torri.

Y Gyfrifiannell Dyfnder Sylfeini

Mae Gwarant yr LABC wedi creu offeryn i helpu i benderfynu pa mor ddwfn dylai sylfaen fod gan ddibynnu ar y newidynnau sydd wedi'u nodi uchod.

I gael rhagor o gyngor, siaradwch â thîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol cyn cyflwyno eich cais, a gwnewch yn siŵr bob amser bod eich cyllideb yn cynnwys arian wrth gefn ar gyfer costau ychwanegol annisgwyl.