Beth yw'r materion sy'n ymwneud ag offer gwresogi, simneiau a ffliwiau?
Project type
Gofynion y rheoliadau adeiladu
Mae'r rheoliadau adeiladu'n berthnasol i osod unrhyw stof. Mae'r gofynion technegol i gyd ar gael yn Nogfen Gymeradwy J - Offer Hylosgi a systemau Storio Tanwydd (mae cysylltau at ddogfennau Cymru a Lloegr yn is i lawr ar y dudalen).
Mae unrhyw waith sy'n effeithio ar simnai sy'n bodoli (h.y. gosod stof neu leiner newydd) neu greu simnai newydd nawr yn fater rheoli adeiladu oni bai ei fod yn cael ei wneud gan Unigolyn Cymwys sydd wedi'i gofrestru â HETAS.
Simneiau a ffliwiau
Mae angen simnai Dosbarth 1 ar gyfer pob stof sy'n llosgi pren neu fwy nag un tanwydd. Efallai y byddwch yn gallu defnyddio eich simneiau presennol, ond mae'n rhaid archwilio eu bod yn aerglos a gwneud yn siŵr bod eu diamedr a'u safle'n addas i'r offer yr ydych yn bwriadu eu gosod.
Hefyd, bydd angen sgubo'r ffliw a chynnal prawf mwg i wneud yn siŵr ei bod yn nwyglos i atal mwg rhag mynd i mewn i'ch cartref.
Gallai fod yn bosibl gosod leinin newydd ar eich simnai, er enghraifft leinin dur gwrthstaen Dosbarth 1 gradd 904/904.
Mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr nad yw eich ffliw'n rhy agos at elfennau hylosg fel distiau'r llawr neu'r to, oherwydd gallai hyn achosi tân. Ni chaiff unrhyw beipen ffliw un croen fod yn nes at elfen hylosg na thair gwaith ei diamedr e.e. ar gyfer peipen 6" neu 150mm mae angen iddi fod o leiaf 18" neu 450mm i ffwrdd. Efallai y gallech leihau'r pellter hwn i 50mm os ydych yn gosod ffliw wedi'i hinswleiddio â dwy wal.
Mae uchder y ffliw neu'r simnai'n hollbwysig ac mae'n rhaid i'ch ffliw gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.
Os nad yw eich simnai neu ffliw'n ddigon uchel o'i chymharu â'r to, ni fydd y simnai'n tynnu'n dda ac mae'n rhaid i nwyon ffliw allu llifo'n rhydd o'r simnai i osgoi unrhyw risgiau i'r eiddo neu i'r preswylwyr.
Gallai simnai sy'n rhy isel ddioddef problem mwg taro (gwthio'r mwg yn ôl i lawr y simnai) ac yna ni fydd nwyon ffliw'n dianc yn rhydd a byddant yn achosi problemau.
Os yw eich ffliw'n mynd allan drwy'r to o fewn 600mm i bwynt uchaf y to, mae'n rhaid iddi fod 600mm yn uwch na brig y to neu'r grib.
Os bydd yn is i lawr lefel y to a dros 600mm oddi wrth bwynt uchaf y to, mae'n rhaid i chi estyn y simnai i fyny o leiaf un metr nes eich bod yn clirio'r pwynt uchaf, neu nes eich bod o leiaf 2.3m yn llorweddol oddi wrth orchudd y to.
Stofiau rhydd
Os ydych yn bwriadu gosod stof mewn ystafell heb simnai na lle tân, mae'n rhaid i chi sicrhau bod eich aelwyd o leiaf 840mm x 840mm.
Amnewid boeler nwy
Wrth amnewid boeleri neu osod rhai newydd, mae'r rheoliadau adeiladu'n mynnu eich bod yn gosod boeleri math cyddwyso effeithlon iawn. Yr unig eithriad i osod y math hwn o foeler yw pan fydd eich gosodwr cymeradwy o'r farn bod safle'r boeler cyddwyso'n arbennig o broblemus. Dylai eich gosodwr allu eich cynghori am y gofynion hyn.
Aelwydydd
Mae cynllun eich aelwyd hefyd yn bwysig; mae'n bwysig nad yw'r gwres o'r stof yn achosi tân a dylai fod yn ddigon mawr i unrhyw danwydd sy'n llosgi lanio ar arwyneb gwrthdan pe bai'n gollwng allan o'r stof.
Mae'n rhaid i stof sefyll ar aelwyd anhylosg sy'n estyn o leiaf 225mm o flaen y stof ac 150mm allan i'r ochrau. Os yw'r aelwyd wedi'i hadeiladu ar lawr hylosg fel llawr pren mae'n rhaid i'r aelwyd fod o leiaf 250mm o drwch oni bai bod eich stof wedi'i dylunio a'i phrofi i roi tymheredd aelwyd heb fod dros 100 gradd canradd, ac os felly bydd aelwyd 12mm yn iawn. Os yw eich stof wedi'i dylunio i redeg â'i drysau ar agor, mae'n rhaid i'ch aelwyd estyn o leiaf 300mm o flaen y stof.
Os ydych yn adeiladu'r aelwyd ar lawr anhylosg fel llawr concrit, gall cyfanswm y trwch fod yn 250mm. Felly os mai 100mm o goncrit yw'r llawr anhylosg, mae angen aelwyd lechen 150mm i wneud y 250mm sy'n ofynnol.
Plât hysbysu
Ar ôl gosod eich offer newydd, bydd angen i chi osod hysbysiad neu blât parhaol mewn safle priodol i roi manylion am leoliad y lle tân, math a maint y ffliw a'r math o offer gwresogi yr ydych yn ei ddefnyddio.
Awyru
Mae stofiau'n defnyddio aer o'r tu mewn i'r ystafell i hylosgi. Ar gyfer unrhyw stof tanwydd solet ag allbwn dros 5kW, mae angen awyrell sydd ar agor yn barhaol ag arwynebedd trawstoriadol o 550² mm o leiaf ar gyfer pob kW dros 5kW. Ni chaiff yr awyrell hon fod yn addasadwy, a dylid ei gosod mewn safle lle na chewch eich temtio i flocio'r awyrell i atal sŵn a drafftiau.
Os cafodd eich tŷ ei adeiladu yn 1992 neu'n ddiweddarach, bydd angen awyrell beth bynnag yw allbwn y stof, gan fod tai wedi'u hinswleiddio'n well ac yn llai drafftiog, sy'n golygu bod angen i chi gyflenwi aer ffres i'r ystafell.
Fel rheol, ni ddylid gosod awyrellau yn y lle tân ei hun oni bai bod eich gosodwr arbenigol wedi dweud y dylid gwneud hynny. Os ydych yn defnyddio rhwyll neu fath arall o gard i atal plâu fel fermin rhag dod i mewn i'r tŷ, ni chaiff fod yn llai na 5mm. Cewch osod awyrell barhaol yn unrhyw le yn yr ystafell, cyn belled â'i bod wedi'i chysylltu'n uniongyrchol â'r tu allan.
Carbon monocsid
Mae offer sy'n cynhyrchu gwres hefyd yn cynhyrchu carbon monocsid (CO). Mae hwn yn nwy di-liw, diarogl a di-flas sy'n wenwynig i fodau dynol ac i anifeiliaid. Mae'n cael ei alw'n "lladdwr tawel" oherwydd allwch chi ddim ei ganfod eich hun.
Mae canfodydd carbon monocsid yn ddyfais ddiogelwch sy'n rhoi gwybod i chi os oes gennych ollyngiad CO i'ch helpu i ddianc o'r sefyllfa hon allai beryglu eich bywyd. Mae'n rhaid i chi osod canfodydd carbon monocsid yn yr ystafell lle mae'r stof wedi'i gosod. Heb hwn, ni wnaiff y gosodwr HETAS gadarnhau eich gosodiad.
Mae'n rhaid i'r uned gynnwys batri oes hir wedi'i selio. Ni chewch osod canfodydd safonol â batris y gellir eu hamnewid. Mae oes yr uned yn gyfyngedig a dylid gosod uned gwbl newydd ar ôl rhwng pump a saith o flynyddoedd, ond mae'n bwysig gwirio beth yw hyd oes y cynnyrch penodol.
Rhagor o wybodaeth
https://www.hetas.co.uk/be-alarmed/
Dogfen Gymeradwy J Lloegr - Offer hylosgi a systemau storio tanwydd
Dogfen Gymeradwy J Cymru - Offer hylosgi a systemau storio tanwydd
A fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer offer gwresogi?