Beth yw pontydd oer a sut maent yn digwydd?
Project type
Mae pontydd oer yn digwydd wrth i arwyneb neu adeiledd cynnes gwrdd ag un oerach. Yn syml, maent yn fan gwan yn y defnydd inswleiddio o gwmpas tŷ.
Mae pontydd oer (neu bontydd thermol) yn digwydd pan fydd toriad yng nghysondeb yr inswleiddio. Gall y toriad gael ei achosi gan elfennau'n tarfu ar y defnydd inswleiddio neu'n treiddio drwyddo, er enghraifft:
- Peipiau a cheblau
- Ffenestri a drysau
- Balconïau
- Stydwaith mewn waliau ffrâm bren
- Cysylltau rhwng to a wal, neu rhwng wal a llawr
Mae'r lleithder yn yr aer yn glynu at yr arwyneb oeraf ac yn aml yr arwydd cyntaf yw malltod du'n ffurfio o gwmpas byrddau sgyrtin ac agoriadau ffenestri.
Dylai dylunio a chrefftwaith da atal pontydd oer, ac mae'n rhywbeth y bydd eich syrfëwr rheoli adeiladu'n chwilio amdano wrth ymweld â'r safle.
Rhagor o wybodaeth
Beth yw'r materion allweddol o ran dylunio ac adeiladu?