Sut ydw i'n delio â lleithder ac anwedd mewn cartref cyfnod?
Project type
Gall unrhyw gartref o unrhyw oed ddangos arwyddion o 'leithder' ond mae'r rhan fwyaf o leithder yn cael ei achosi gan waith atgyweirio ac addasu anaddas neu gan y ffordd caiff yr adeilad ei ddefnyddio, nid gan ddiffygion cynhenid o ran dylunio ac adeiladu.
Efallai y bydd rhywun wedi dweud wrthych bod 'lleithder codi' yn eich cartref ac mae'n bosibl y bydd rhywun wedi sylwi ar hyn mewn arolwg gan ddefnyddio mesurydd lleithder. Mae'r rhain yn aml yn rhoi darlleniadau anghywir a gallai'r datrysiad fod yn fwy syml na'r un sy'n cael ei gynnig gan eich adeiladwr neu arbenigwr lleithder.
Fel rheol, bydd lleithder yn ymddangos fel mannau gwlyb yn agos at waelod wal, neu blastr yn syrthio i ffwrdd, neu'n swnio'n wag. Gallai hefyd fod yn weladwy ar eich nenfwd, ar frest eich simnai neu o gwmpas agoriadau ffenestri. Mae llawer o wahanol broblemau'n gallu achosi gwahanol fathau o leithder.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dechrau drwy alw arbenigwr lleithder a fydd yn rhoi mesurydd yn y wal neu'r llawr ac yn dweud wrthych bod y darlleniad yn uchel a bod angen gwario llawer o arian a gwneud llawer o waith anniben. Byddwch yn wyliadwrus - mae'r darlleniad yn gallu bod yn uchel oherwydd bod y lleithder wedi tynnu halen o'r wal. Dargludedd mae'r mesurydd yn ei fesur, nid dŵr, felly mae'n bosibl nad oes lleithder codi gennych.
Anwedd sy'n achosi'r rhan fwyaf o fannau llaith, er bod rhai'n cael eu hachosi gan leithder yn treiddio drwy broblemau cyffredin fel gwaith plwm neu deils ar goll, lefelau tir uchel neu landeri a pheipiau landeri diffygiol. Mae'n bosibl 'gwella' y lleithder treiddio drwy drwsio'r broblem, gadael i'r adeilad sychu'n iawn (efallai y bydd angen defnyddio rheolydd lleithder neu aros amser hir) ac yna ailaddurno gan ddefnyddio defnyddiau addas.
Mae'n gallu bod yn anoddach mynd i'r afael â'r anwedd.
Beth yw anwedd a sut y gallaf ei atal?
Mae bodau dynol yn creu anwedd drwy anadlu a gwneud gweithgareddau arferol y cartref. Wrth i ni anadlu, berwi dŵr, sychu dillad gwlyb neu gael cawod, mae'r aer yn yr ystafell yn llenwi ag anwedd dŵr sy'n cyddwyso, neu'n troi'n ôl yn ddŵr, pan fydd yn taro'r mannau oeraf yn yr ystafell – fel rheol ffenestri, drychau, nenfydau neu fannau oer yn y waliau.
Weithiau bydd y lleithder yn cael ei ddal y tu ôl i arwynebau anathraidd fel paent acrylig, plastr gypswm, plastrau gwrth-ddŵr, teils, finyl neu sment ac yna'n ceisio dianc, gan dynnu'r arwyneb i ffwrdd neu ei 'chwythu' yn y broses ac achosi craciau mewn rhai achosion.
Mae'r rhan fwyaf o baentiau modern wedi'u gwneud i fod yn wydn a hawdd eu glanhau ac i bara'n hir, felly mae'n annhebygol y byddant yn gallu anadlu'n llawn hyd yn oed os ydynt yn honni hynny – efallai y byddant yn gadael i rywfaint o leithder fynd drwodd, ond nid y cyfan.
Ni ddylid byth defnyddio paent, rendrau nac araenau gwrth-ddŵr ar adeiladau hanesyddol gan fod angen iddynt anadlu'n iawn. Mae paentiau sy'n gallu anadlu, paentiau mwyn silicad, paentiau calch a gwyngalch yn gallu amsugno lleithder ac yna ei ryddhau eto pan fydd y lleithder yn gostwng, gan weithredu fel rheolydd lleithder naturiol.
Yn yr un modd, mae gorffeniadau wal fel plastr gypswm, rendrad sment, gro chwipio neu bwyntio sment yn dal anwedd oddi tanynt – nid yw'n gallu anweddu ac mae'r wal yn aros yn wlyb.
Yr ateb yw tynnu'r rendrad i ffwrdd a gadael i'r waliau sychu. Os oes gwaith brics wedi'i ddifrodi a bod angen ei atgyweirio neu osod brics newydd, dylid defnyddio morter calch i wneud hyn. I ailrendro, dylech ddefnyddio rendrad calch traddodiadol, sy'n gallu anadlu'n rhydd, ac sy'n gadael i leithder sydd wedi'i ddal ddianc.
Mae lefelau lleithder yn amrywio rhwng gwahanol dai, mewn gwahanol dywydd ac yn ystod gwahanol weithgareddau. Gallwch fesur lleithder cymharol neu, yn amlach, lleithder absoliwt. Bydd gan dŷ sych tua chwech neu saith gram i bob metr ciwbig, a bydd gan dŷ gwlyb 10 gram neu fwy. Mae chwech gram o gwmpas hanner llwy de fach.
Mae aer cynnes yn gallu dal llawer mwy o ddŵr; dyna pam mae inswleiddio amhriodol mewn cartrefi hŷn a'r tymheredd uwch mae'n ei achosi wedi achosi mwy o broblemau ag anwedd ac felly problemau â lleithder. Y tymheredd lle mae anwedd yn cyddwyso yw'r gwlithbwynt.
Fel rheol, bydd corneli ystafelloedd yn oerach na chanol y waliau neu'r nenfwd, a dyna pam maent yn fwy tebygol o gyrraedd y gwlithbwynt neu'n agos ato, ac felly'n cael mwy o anwedd, llwydni a lleithder.
Mae'r rhan fwyaf o gyddwyso'n digwydd ar arwynebau, ond mae hefyd yn gallu digwydd y tu mewn i elfennau fel waliau.
Anwedd gwagleol yw hyn. Mae hefyd yn gallu digwydd mewn mannau caeedig fel gwagleoedd to a gwagleoedd llawr os nad yw'r awyru'n ddigon da. Mae lleithder yn gallu dod o:
- Preswylwyr - mae'r bod dynol cyfartalog yn chwysu ac yn colli tuag wyth peint o ddŵr mewn cyfnod 12 awr.
- Sychu dillad y tu mewn ar wresogyddion a horsys dillad.
- Ystafelloedd ymolchi – cawodydd, baddonau, tywelion gwlyb.
- Ceginau – o goginio, peiriannau sychu dillad, berwi tegellau ac ati.
- Planhigion tŷ.
- Selerau o dan y ddaear heb awyru na chylchrediad aer.
Mae awyru a chylchrediad aer yn hanfodol i helpu i anweddu'r lleithder hwn a'i atal rhag cyddwyso. Yn aml, mae tai hŷn yn dioddef o ymdrechion llawn bwriadau da i'w gwneud yn fwy thermol effeithlon fel gosod ffenestri plastig, yn aml heb ddim awyru, blocio brics aer a lleoedd tân, a gosod rhimynnau drafftiau. Mae'n syniad da gosod awyrellau diferu, gwyntyllau echdynnu a ffenestri sy'n gallu cael eu cloi mewn safle sydd ychydig bach yn agored wrth wneud gwaith adnewyddu.
Felly i grynhoi, dyma beth allai fod yn achosi eich 'lleithder':
- Paentiau a gorffeniadau wal modern.
- Rendrad sment a brics wedi'u pwyntio â sment.
- Plastr gypswm.
- Lefelau'r ddaear y tu allan yn uwch na'r tu mewn neu'n uwch nag unrhyw gwrs gwrthleithder.
- Landeri wedi torri neu beipiau landeri ar goll.
- Llystyfiant yn tyfu'n agos at y wal.
- Diffyg awyru - ffenestri gwydr dwbl, dim awyrellau.
- Simneiau wedi'u blocio - lle tân wedi'i flocio, dim awyrellau.
- Dodrefn yn erbyn waliau yn creu mannau oer, llaith gan nad yw'r aer yn gallu cylchredeg y tu ôl iddynt.
- Tanau nwy – mae'r rhain yn cynhyrchu symiau enfawr o ager wrth i'r nwy losgi.
Ar ôl i chi drwsio'r broblem, bydd eich lleithder yn diflannu ac yna gallwch ddechrau gwneud gwaith atgyweirio.