Sut rydw i'n atal lleithder gormodol yn fy nghartref?
Mae cartref sych yn allweddol i iechyd a lles y bobl sy’n byw ynddo.
Mae cartref llaith yn fan bridio perffaith i organebau annifyr ac yn gallu cynyddu nifer sbardunau alergeddau fel gwiddon llwch, llwydni a malltod. Bydd hefyd yn pydru pren yn adeiledd eich cartref ac yn difetha eich dodrefn a'ch gorchuddion llawr.
Mae gwresogi effeithlon ac awyru digonol yn hanfodol er mwyn helpu i atal lleithder gormodol.
Beth mae angen i chi ei wneud:
Gosod gwyntyll echdynnu mewn ystafelloedd ymolchi a cheginau (mae hyn yn ofyniad rheoliadau adeiladu ar gyfer ystafelloedd newydd ac ystafelloedd ymolchi/ceginau newydd) a chau'r drws tra bod y wyntyll ymlaen. Dylai gwyntyllau echdynnu allu echdynnu 60 litr o aer yr eiliad neu 30 litr yr eiliad os yw uwchben yr hob. Mae'n rhaid echdynnu'r aer i'r tu allan.
Awyru drwy agor yr awyrellau diferu mewn ffenestri (gofyniad rheoliadau adeiladu ar gyfer ffenestri newydd), agor ffenestr.
Inswleiddio waliau mewnol yw'r ffordd fwyaf effeithlon o inswleiddio ond os nad yw hyn yn bosibl, gellir defnyddio inswleiddio allanol i gyflawni o leiaf isafswm y gwerth U sy'n ofynnol gan y rheoliadau adeiladu. (Y gwerth U yw cyfradd trosglwyddiad gwres drwy adeiledd, a'r gorau mae'r adeiledd wedi'i inswleiddio, yr isaf yw'r gwerth U.)
Gosod system awyru mewnbwn positif – mae hon yn cyflenwi aer ffres o uned sydd wedi'i gosod yn yr atig neu ar wal mewn fflat.
Gosod system adennill gwres neu awyru mecanyddol gydag adennill gwres – mae hyn yn echdynnu gwres o hen aer ac yn ei ddychwelyd i'r aer ffres sy'n cael ei anfon o gwmpas eich cartref.
Defnyddio rheolydd lleithder fel mesur dros dro ar gyfer lleithder gafodd ei adael yn y tŷ wrth i chi adeiladu eich estyniad.
Rhagor o wybodaeth
Dogfen Gymeradwy C - Paratoi’r safle a gwrthsefyll halogion a lleithder